Dathlu hanes Cymru gyda cadw dros hanner tymor
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror eleni, mae Cadw yn gwahodd teuluoedd i ddarganfod rhai o leoliadau hanesyddol mwyaf eiconig y genedl a dysgu mwy am eu straeon.
Gyda dewis eang o gestyll, abatai a henebion llawn naws, mae Cadw yn cynnig cyfuniad unigryw o addysg ac adloniant ar draws mwy na 130 o leoliadau yng Nghymru – yr opsiwn perffaith i deuluoedd sy'n chwilio am ddiwrnod allan cofiadwy yn ystod hanner tymor.
Cwblhau Her Marchnad Rufeinig ym Maddondy Rhufeinig Caerllion
I'r rhai sy'n chwilio am weithgareddau pob tywydd i'w gwneud yn ystod hanner tymor, mae Cadw yn cynnal Her Marchnad Rufeinig Anturiaethwyr Ifanc ym Maddondai Rhufeinig Caerllion gydol yr wythnos. Gall ymwelwyr gamu yn ôl mewn amser a mynd ar daith o amgylch y baddondai Rhufeinig hudolus i ddarganfod y cynhwysion rhyfedd a rhyfeddol sydd eu hangen ar gyfer gwledd Rufeinig foethus.
Gan archwilio olion y natatio eang, neu'r pwll nofio awyr agored (sydd bellach dan do) a oedd unwaith yn dal mwy nag 80,000 galwyn o ddŵr, gallwch gael cipolwg ar filwr Rhufeinig sy'n dal i blymio'r dyfnderoedd heddiw, diolch i ryfeddodau tafluniad ffilm. Y tu allan, gallwch gerdded drwy'r fynedfa fawr i'r gogledd i'r amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain, ac yno gall teuluoedd ddychmygu torf o 6,000 o bobl yn ymgasglu i gael eu difyrru.
Darganfod gwrthryfel y Cymry yng Nghastell Harlech
Yn 1404 syrthiodd y castell i ddwylo’r tywysog carismatig Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn rheolaeth Lloegr. Ynghyd â Machynlleth gerllaw, daeth yn ganolfan i weledigaeth ysbrydoledig Glyndŵr am Gymru annibynnol.
Symudodd ei brif breswylfa a'i lys yma a galwodd ar ei ddilynwyr o bob cwr o'r wlad i fynychu senedd wych. Mae'n ddigon posibl mai yng Nghastell Harlech y cafodd ei goroni'n ffurfiol yn Dywysog Cymru ym mhresenoldeb llysgenhadon o'r Alban, Ffrainc a Sbaen.
Croeswch y bont droed ysblennydd ‘arnofiol’ ac ewch i mewn i'r castell gwych hwn. Yno gallwch ddarganfod ei amddiffynfeydd, ei dyredau a’i borthdai a theithio yn ôl mewn amser.
Darganfod y chwyldro diwydiannol yng Ngwaith Haearn Blaenafon
Yn un o gewri’r oes ddiwydiannol, mae Gwaith Haearn Blaenafon yn rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang.
Yn swatio mewn bryniau a oedd unwaith yn llawn glo, calchfaen a mwynau haearn ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd sy'n llawn straeon am gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru a gweddill y byd. Yma, gall teuluoedd ddarganfod hanes diwydiant wrth ymweld â'r ffwrneisi trawiadol, y ffowndri, y tŷ cast a'r tŵr cydbwyso dŵr enfawr a arferai godi wagenni 80 troedfedd i'r awyr ar un adeg.
Gyda bythynnod sydd wedi'u dodrefnu i weddu i’r cyfnod a 'siop y gwaith' sydd wedi’i hail-greu a lle’r oedd y gweithwyr yn gwario eu cyflog prin, gall ymwelwyr hefyd gael blas heb ei ail ar fywyd bob dydd i'r bobl a greodd hanes.
Meddai Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes:
"Mae hanes Cymru yn cynnwys llond trol o wahanol straeon sy'n dod yn fyw ar draws ein lleoliadau hanesyddol ymhob cwr o’r wlad. Mae hanner tymor yn amser perffaith i deuluoedd ddarganfod a mwynhau lleoliadau Cadw lleol gyda'i gilydd, gan fagu ymdeimlad o falchder a chwilfrydedd am ein treftadaeth."
I deuluoedd sydd am ymweld sawl gwaith, mae aelodaeth Cadw yn gynnig heb ei ail. Mae aelodau'n mwynhau mynediad diderfyn i dros 130 o leoliadau hanesyddol ledled Cymru gydol y flwyddyn, ynghyd â gostyngiadau unigryw mewn siopau anrhegion ac atyniadau tebyg yng ngweddill y DU. Mae mynediad am ddim i blant hefyd gydag unrhyw aelodaeth oedolyn.
Gellir cael aelodaeth i unigolion, teuluoedd a phobl hŷn, sy’n golygu ei fod yn gost-effeithiol ac yn hawdd i unrhyw un sydd am fwynhau'r lleoliadau hardd hyn ledled y wlad.