Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn dod i rym ym mis Tachwedd
Ar 16 Awst, llofnododd Jane Hutt A, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Orchymyn Cychwyn yn pennu 4 Tachwedd 2024 fel y dyddiad y bydd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn dod i rym. Dyma’r cam cyntaf yng nghamau olaf rhaglen waith i ddod â’r Ddeddf a chyfres ategol o is-ddeddfwriaeth i rym ledled Cymru.
Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol, a daeth yn gyfraith ffurfiol ar 14 Mehefin 2023. Dim ond llond llaw o’i darpariaethau a ddaeth i rym bryd hynny, gan fod angen is-ddeddfwriaeth i gefnogi’r Ddeddf cyn bod modd ei rhoi ar waith yn gyffredinol. Roedd rhai rheoliadau a gorchmynion sefydledig eisoes wedi’u hymgorffori yn y Ddeddf. Byddai’n rhaid ailddatgan is-ddeddfwriaeth arall — er enghraifft, rheoliadau a allai fod angen eu diwygio’n aml — gan ddefnyddio’r un dull a fabwysiadwyd yn y cydgrynhoi: er mwyn gwella hygyrchedd y ddeddf trwy ei hailddatgan a’i haildrefnu, tra’n cadw ei heffaith.
Yn ystod y misoedd ers y Cydsyniad Brenhinol, mae saith set o reoliadau wedi’u paratoi, yn ogystal â’r Gorchymyn Cychwyn.
- Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024
- Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024.
Bydd rhagor o wybodaeth am y rheoliadau hyn wrth iddynt gael eu cyflwyno ym mis Medi a mis Hydref. Byddant yn dod i rym ar yr un pryd â’r Ddeddf ar 4 Tachwedd.
Pan ddaw’r Ddeddf a’i rheoliadau ategol i rym ym mis Tachwedd, byddant yn disodli’r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer rheoli a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru — yn bennaf Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 — gyda deddfwriaeth gwbl ddwyieithog sydd wedi’i threfnu’n rhesymegol a’i mynegi’n glir.