Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Rheoliadau i gefnogi Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Cafodd y rhan fwyaf o'r is-ddeddfwriaeth newydd sydd ei hangen i gefnogi Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ('Deddf 2023') ei gwneud ar 9 Medi pan lofnododd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, chwe set o reoliadau. Gosodwyd y rheoliadau hyn gerbron y Senedd ar 11 Medi ac, ar yr amod nad oes gwrthwynebiad gan y Senedd o fewn 40 diwrnod, byddant yn dod i rym ochr yn ochr â'r Ddeddf ar 4 Tachwedd 2024. Gellir gweld yr holl reoliadau newydd yn deddfwriaeth.gov.uk.

Mae pump o'r chwe set o reoliadau yn ailddatgan is-ddeddfwriaeth bresennol yng ngoleuni Deddf 2023, fel y nodir yn y tabl canlynol.

Rheoliadau newydd
Is-ddeddfwriaeth bresennol
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
 
  • Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 a diwygiadau dilynol
  • Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017
  • Cyfarwyddyd Ceisiadau a Phenderfyniadau Adeilad Rhestredig (Dyletswydd i Hysbysu Cymdeithasau Amwynder Cenedlaethol a'r Comisiwn Brenhinol) (Cymru) 2022
  • Cyfarwyddyd Ceisiadau Cydsyniad Adeilad Rhestredig (Datgymhwyso Dyletswydd i Hysbysu Gweinidogion Cymru) (Cymru) (2017 Rhif 25)
  • Cyfarwyddyd Ardaloedd Cadwraeth (Datgymhwyso Gofyniad i Gael Cydsyniad Ardal Gadwraeth Er Mwyn Dymchwel) (Cymru) (2017 Rhif 27)
     
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
 
Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018
 
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth) (Cymru) 2024
 
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
 
Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024
 
Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017
 
Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
 
Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
 

Gan ddefnyddio'r un dull a gymerwyd gyda Deddf 2023, mae'r rheoliadau newydd yn diweddaru ac yn ailddatgan rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddydau presennol, ond nid ydynt yn newid effaith y gyfraith. Bydd yr holl is-ddeddfwriaeth bresennol a nodir yn y tabl yn cael ei diddymu a'i disodli pan ddaw'r rheoliadau newydd i rym ar 4 Tachwedd.   

Mae'r pum set hyn o reoliadau, fel Deddf 2023, yn datgan eu bod yn rhan o god o gyfraith sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol i Gymru. Bwriad y datganiad statws hwn yw helpu pobl sydd â diddordeb yn y gyfraith ar bwnc penodol - yr amgylchedd hanesyddol yn yr achos hwn – i ddod o hyd iddi a'i dosbarthu'n haws.

Bydd dwy set arall o reoliadau yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil Deddf 2023. Mae'r cyntaf, a wnaed ar 9 Medi ac a osodwyd gerbron y Senedd ddeuddydd yn ddiweddarach, yn gwneud newidiadau i is-ddeddfwriaeth:

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024

Nid yw'r set olaf o reoliadau, a fydd yn ddarostyngedig i weithdrefn wahanol gan y Senedd oherwydd ei bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, wedi'i gwneud eto:

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 [heb eu gosod eto]

Gan na fyddant yn disodli'r rheoliadau presennol ac nad ydynt o sylwedd, ni fydd y rheoliadau canlyniadol hyn yn rhan o god yr amgylchedd hanesyddol. Dylent hefyd ddod i rym ar 4 Tachwedd.