Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn dod i rym yn llawn

Mewn datganiad ysgrifenedig ar y cyd a gyhoeddwyd heddiw, 4 Tachwedd 2024, cyhoeddodd Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, a Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, fod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 wedi dod i rym yn llawn, ynghyd â'i chyfres o reoliadau ategol.

O heddiw ymlaen, nid yw’r Deddfau a ddarparodd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru am ddegawdau — yn bennaf Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 — yn gymwys yng Nghymru bellach. Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (‘Deddf 2023’) wedi eu disodli ac wedi rhoi i Gymru y ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol fwyaf cyfredol ymhlith gwledydd y DU. Mae Deddf 2023, a wnaed yng Nghymru ar gyfer Cymru yn unig, yn rhydd o gyfeiriadau dryslyd at awdurdodaethau eraill y DU ac, am y tro cyntaf, mae’n darparu cyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol sy’n gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn treftadaeth archaeolegol ac adeiledig gyfoethog Cymru droi at Ddeddf 2023 a’i rheoliadau ategol ar gyfer cyfraith yr amgylchedd hanesyddol sydd wedi’i strwythuro’n rhesymegol, yn gyson ac wedi’i mynegi, cyn belled ag y bo modd, mewn iaith glir a chyfarwydd. Er bod y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddod o hyd i’r gyfraith, ei deall a’i rhoi ar waith, nid yw’n gwneud unrhyw newidiadau i reolaeth a diogelwch presennol amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae cychwyn llawn y ddeddfwriaeth hefyd yn nodi dwy garreg filltir arwyddocaol yn hanes llyfr statud modern Cymru. Mae’r Ddeddf ei hun yn cynrychioli penllanw prosiect cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen uchelgeisiol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Cydgrynhoi yw un o’r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer dod â threfn ac eglurder i faes y gyfraith. Mae cydgrynhoi yn dwyn ynghyd y ddeddfwriaeth bresennol ar bwnc, yn moderneiddio ffurf a drafftio’r gyfraith ac yn ei hailddatgan yn ddwyieithog i Gymru yn unig. Er y gall newid trefniadaeth a chyflwyniad y ddeddfwriaeth, egwyddor arweiniol cydgrynhoi yw nad yw’n newid polisi nac yn newid effaith y gyfraith.

Mae Deddf 2023 a’i rheoliadau ategol o sylwedd i gyd yn datgan yn benodol eu bod yn ‘rhan o god y gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru’. Dyma felly yw’r cod cyfraith cyntaf i’w gynhyrchu o dan y rhaglen hygyrchedd. Mae codeiddio yn darparu’r modd i gynnal strwythur a chywirdeb y gyfraith unwaith y bydd wedi’i ddwyn i drefn trwy gyfuno neu ddiwygio. Y bwriad yw bod Deddfau’r Senedd yn y dyfodol yn cael eu deddfu a’u cynnal fel y bydd defnyddwyr y ddeddfwriaeth yn gallu dod o hyd i gymaint o’r gyfraith sy’n effeithio ar bwnc penodol â phosibl drwy ddarllen un Ddeddf Senedd ac unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tani.