Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Rydym yn gwybod pa mor gyffrous yw hi i grwydro ystafelloedd a thiroedd ein safleoedd wedi iddi dywyllu; pan glywir trawstiau pren mewn maenor o’r 15fed ganrif yn gwichian, a hwtian iasoer tylluan ar dir castell canoloesol!

Felly, eleni, fe wnaethon ni benderfynu croesawu ymwelwyr i rai o’n henebion mwyaf hynafol am rai profiadau wedi iddi dywyllu.

Bu ein tîm yn gweithio’n galed i greu nosweithiau atmosfferig llawn straeon ysbryd a gweithgareddau ‘ysbrydol’ eraill mewn safleoedd fel cestyll Caerffili, Rhaglan a Chydweli.

Fe gynhaliodd ein castell tylwyth teg, Castell Coch, ddarlith gyda’r Athro Ronald Hutton, gan daflu goleuni ar draddodiadau Calan Gaeaf yng Nghymru – noson o hen ddefodau i groesawu dechrau’r gaeaf.

Roedd Roger Morgan, un o’n cyn-geidwad, wrth law i adrodd chwedlau lleol a chreu ymdeimlad o ddrama yn un o safleoedd Rhufeinig pwysicaf Cymru – Baddonau Rhufeinig Caerllion – ar ôl i ymwelwyr ymgynnull yn y dafarn gerllaw i dawelu ychydig ar y nerfau!

Roedd neuadd fawr Llys a Chastell Tretŵr wedi’i goleuo â chanhwyllau wrth i fythau a chwedlau gael eu hadrodd i grŵp o bobol yn union fel y byddai wedi digwydd ganrifoedd yn ôl.

Dros gyfnod Calan Gaeaf, fe groesawon ni dros 450 o ymwelwyr i’n digwyddiadau gyda’r nos a bu’r sylwadau a’r adborth yn wych. Diolch i bawb a ddaeth i’n cefnogi ac allwn ni ddim aros i wneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf!

Tîm Cadw.