Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

30 TÎM CREADIGOL WEDI'U DYFARNU Â hyd at £100,000 YR UN AR GYFER PROSIECT YMCHWIL A DATBLYGU FESTIVAL UK* 2022

  • TIMAU WEDI EU CASGLU YNGHYD BOB CWR O'R DU A PHOB CORNEL O WLEDYDD Y DU I GYDWEITHREDU MEWN FFORDD UNIGRYW
  • MWY NA 500 O SEFYDLIADAU AC UNIGOLION, GAN GYNNWYS GWEITHWYR LLAWRYDD, O FEYSYDD GWYDDONIAETH, TECHNOLEG, PEIRIANNEG, Y CELFYDDYDAU A MATHEMATEG (STEAM)
  • AR ÔL YR YMCHWIL A DATBLYGU, BYDD DEG SYNIAD YN CAEL EU DEWIS I'W CYNHYRCHU'N LLAWN AR GYFER YR ŴYL YN 2022

Bydd rhaglen ymchwil a datblygu gwerth £3 miliwn yn mynd rhagddi'r wythnos hon, i ddatblygu syniadau agored, gwreiddiol ac optimistaidd a allai fynd ymlaen i ddod yn un o ddeg prosiect creadigol sylweddol, y cwbl wedi'u dylunio i gyrraedd miliynau, dwyn pobl ynghyd ac arddangos creadigedd ac arloesedd y DU yn fyd-eang yn 2022.

Mae 30 Tîm Creadigol wedi'u dewis i gymryd rhan ym Mhrosiect Ymchwil a Datblygu Festival UK* 2022, ac mae'r cwbl wedi cael buddsoddiad o hyd at £100,000 i'w galluogi i ddatblygu eu syniadau ar gyfer yr Ŵyl. Mae'r timau yn cynnwys mwy na 500 o sefydliadau ac unigolion o bob cwr o'r DU, gan gynnwys gweithwyr llawrydd a doniau'r dyfodol, gyda nifer yn gweithio gyda'i gilydd am y tro cyntaf.  Wedi'u lleoli yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, dônt ag ehangder rhyfeddol o wybodaeth a chreadigedd ar draws meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM), gyda nifer yn gweithio gyda'i gilydd am y tro cyntaf.

Bydd manylion y Timau Creadigol yn cael eu cyhoeddi heddiw ar wefan Festival UK* 2022, gyda nifer o bartneriaethau cyffrous ac unigryw. Maent yn cynnwys sefydliadau o'r sector cyhoeddus a phreifat, artistiaid, gwyddonwyr, technolegwyr, peirianyddion a mathemategwyr, ynghyd â choreograffwyr, codwyr, datblygwyr gemau, cerddorion, gwneuthurwyr theatr, ysgrifenwyr, a nifer o ddisgyblaethau eraill. Mae'r lledaeniad daearyddol ar draws y DU hefyd yn adlewyrchu ei amrywiaeth, gan gynnwys sefydliadau anabledd, a phobl greadigol o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Dewiswyd y 30 Tîm Creadigol ar gyfer Prosiect Ymchwil a Datblygu Festival UK* 2022 yn dilyn galwad agored. Fel rhan o broses ddethol drylwyr, ystyriwyd 299 o geisiadau, yn cynnwys bron i 3,000 o sefydliadau, gweithwyr llawrydd a phobl greadigol eraill yn cynrychioli'r pump sector STEAM.

Dros y rhai misoedd nesaf, bydd pob tîm yn cael cymorth i ddatblygu ei syniad mawr, drwy raglen wedi'i dylunio'n arbennig sy'n cynnwys cyflwyniadau, gweithdai gyda thîm Ymchwil a Datblygu'r BBC, mannau ar gyfer grwpiau a chyfleoedd i glywed gan siaradwyr uchel eu parch yn cynrychioli STEAM.

Yn ogystal â gweithio yn eu timau, anogir mynychwyr i weithio ar draws timau, i uchafu potensial y ddawn gyfunol ar draws sectorau ac i ysgogi rhwydweithiau creadigol newydd.

Bydd y 30 tîm yn cyflwyno eu cynigion gerbron panel ym mis Chwefror 2021, a bydd deg yn cael eu dewis i'w datblygu fel rhan o'r Ŵyl ledled y DU, a fydd yn cael ei chynnal drwy gydol 2022. Disgwylir i raglen yr Ŵyl gael ei chyhoeddi yn hwyr yn 2021. Mae datblygiad yr Ŵyl yn cael ei ddogfennu er mwyn creu adnodd cyhoeddus i genedlaethau'r dyfodol, gyda'r Prosiect Ymchwil a Datblygu yn cael ei rannu dan Creative Commons.

Yn cael ei rhedeg yn annibynnol a'i harwain gan y Prif Swyddog Creadigol, Martin Green, mae Festival UK* 2022 wedi cael cefnogaeth gan bedair llywodraeth y DUDaw £120 miliwn o fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys cyllid i weinyddiaethau datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae'r 30 Tîm Creadigol a ddewiswyd ar gyfer yr Ymchwil a Datblygu yn cynnwys 22 cywaith ledled y DU, a dau yr un o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden:

'Mae'r 30 o dimau yn dangos creadigrwydd Prydeinig o'r radd flaenaf ar ei orau - mentro, arloesol ac amrywiol. Maent wedi wynebu cystadleuaeth frwd cyn llwyddo a chyrraedd yma gan amlygu yn union yr hyn sy'n bosib pan fydd sefydliadau o bob rhan o'r DU yn cydweithio. Rwyf ar bigau i gael gweld eu syniadau anturus yn cael eu gwireddu.

'Gyda Festival UK* 2022, Jiwbili Platinwm a Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham, mae 2022 yn argoeli i fod yn flwyddyn wirioneddol anhygoel o ddathlu ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.'

Dywedodd Arglwydd Faer Belfast, yr Henadur Frank McCoubrey:

'Rydym yn teimlo'n gyffrous a breintiedig i fod yn rhan o Festival UK* 2022 a bod mewn sefyllfa i arddangos creadigedd ac arloesedd Gogledd Iwerddon ar lwyfan byd-eang. Rydym yn genedl adnabyddus am fod yn llawn doniau, creadigedd, gallu ac optimistiaeth; ac mae hwn yn gyfle gwych i ddwyn pobl greadigol ynghyd gyda'n meddyliau gwyddonol, technolegol, peirianyddol, celfyddydol a mathemategol enwog i feddwl am syniadau cwbl unigryw ac arloesol.'

‘Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol i'r celfyddydau a chalonogol oedd gweld sut mae rhaglenni a gweithgareddau diwylliannol wedi'u haddasu ar gyfer y tirlun cymdeithasol newidiol. Mae'r prosiect hwn yn gyfle i ddefnyddio doniau lleol i adeiladu'r egni hwn a chreu prosiectau uchelgeisiol, sy'n torri tir newydd, ac arloesi ffyrdd newydd y gall diwylliant ffynnu.’

Dywedodd Fiona Hyslop, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Gwaith Teg a Diwylliant:

"Mae Festival UK* 2022 eisoes yn dangos cyfleoedd newydd a chyffrous i sectorau Celfyddydau a Thechnoleg byd-enwog yr Alban i weithio gyda'i gilydd. Mae dau Dîm Creadigol unigryw yn cynnwys unigolion a sefydliadau, y cwbl wedi'u lleoli yn yr Alban yn datblygu eu cynigion i'w cyflwyno yn yr Alban yn ystod 2022, yn ogystal ag ystod eang o bobl eraill yn yr Alban a fydd yn bartneriaid allweddol mewn Timau Creadigol eraill sy'n datblygu cynigion i'w cyflawni ledled y DU. Gallwn fod yn sicr bod y cwbl ohonynt yn enghreifftiau eithriadol o greadigedd ac arloesedd yr Alban.'

'Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn fel hwb i artistiaid, ymarferwyr a sefydliadau ar draws sectorau STEAM yr Alban - a thu hwnt, gan dynnu ar ein doniau, creadigedd ac arloesedd. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynigion sy'n cael eu datblygu yn yr Alban ac ar draws y 4 cenedl arall fel rhan o'r ŵyl.'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru:

'Mae'n newyddion gwych ein bod wedi cael nifer o geisiadau o ansawdd o Gymru a hoffwn ddiolch i bawb am eu hamser a'u hymdrech i ddod at ei gilydd a ffurfio timau sy'n cynrychioli STEAM. Rydym nawr yn teimlo'n hynod gyffrous am y ddau dîm sydd wedi'u cymeradwyo ac yn edrych ymlaen at ragor o fanylion ynglŷn â'r syniadau creadigol y byddant yn cynnig eu cyflawni i Gymru. Mae'n rhagorol y gallwn helpu'r sectorau hyn yn ystod cyfnod anodd ac edrychwn ymlaen at 2022. Mae'n newyddion gwych hefyd y bydd nifer o bartneriaid o Gymru yn cynrychioli Cymru yn nhimau'r DU sydd wedi'u dewis i ymgymryd ag Ymchwil a Datblygu.'

Dywedodd Martin Green, Prif Swyddog Creadigol Festival UK* 2022: 'Mae Festival UK* 2022 yn arbrawf enfawr yn nhermau creadigedd gyda'r gwerthoedd craidd o fod yn agored, gwreiddiol ac optimistaidd, ac annog timau i feddwl yn fawr. Mae'n rhyfeddol bod cymaint o bobl arbennig, yn cynnig creadigedd eithriadol ar draws STEAM, eisiau cydweithio y tu hwnt i'w disgyblaethau arferol a gyda phobl efallai nad ydynt wedi gweithio gyda nhw o'r blaen. Nid yw'r broses ddethol wedi bod yn rhwydd, felly rydym wrth ein bodd o glywed y bydd rhai cysylltiadau creadigol newydd yn parhau ymhlith y rheiny na chawsant eu dewis, yn ogystal ag edrych ymlaen at weld beth fydd gan y 30 Tîm Creadigol i'w gynnig dros y rhai misoedd nesaf.'

Dywedodd y Fonesig Vikki Heywood CBE, sy'n cadeirio'r Bwrdd annibynnol a sefydlwyd ar gyfer Festival UK* 2022: 'Drwy gydol y broses hon, mae'r Bwrdd a'n tîm cyfan, wedi ceisio sicrhau y bydd yr Ŵyl yn cynnwys yr ehangder o syniadau a photensial i ddathlu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg mewn ffyrdd newydd ac annisgwyl ledled y DU. Hoffem ddiolch i'r holl dimau sydd wedi cymryd amser i ymgeisio i fod yn rhan o'r Prosiect Ymchwil a Datblygu a gobeithio ei bod wedi bod yn broses ysgogol i bawb. Dyluniwyd i ysgogi sgyrsiau cadarnhaol a chyweithiau posib yn y dyfodol, erioed wedi meddwl amdanynt, na'u gwireddu, o'r blaen.'

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â media@festival2022.uk neu ewch i www.festival2022.uk.