Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Caiff y fenter Gaeaf Llawn Lles ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i diben yw hybu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn a pherson ifanc.

Mae Cadw wedi cefnogi Gaeaf Llawn Lles drwy bartneriaeth â chwmni o’r enw TWO WOMEN: y Cynhyrchydd Creadigol Deborah Dickinson a’r Awdur/Cyfarwyddwr Janys Chambers sy’n cynnig gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Penllanw’r gwaith yn awr yw sioe o’r enw Diwrnod yn ein Bywyd Ni yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar 2 a 3 Ebrill.

Mae’r tocynnau YN RHAD AC AM DDIM. 

Gallwch eu harchebu ar Eventbrite neu ffoniwch 01745-812349 

Cafodd y gweithdai eu cyflwyno gan Janys Chambers a Tom Conwy gyda’r grwpiau / ysgolion canlynol a 83 o bobl ifanc, er gwaetha’r heriau o ran Covid-19.

  • Sied Ieuenctid Abergele – 2 grŵp 11-14 oed a 15+ oed
  • Cyswllt Conwy – grŵp i bobl ifanc ag anableddau dysgu
  • Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru – pobl ifanc yn y Ganolfan Addysg
  • Ysgol Uwchradd Prestatyn – Myfyrwyr Blwyddyn 11
  • Ysgol Coedcae, Llanelli – 3 grŵp o fyfyrwyr – Blynyddoedd 7, 8 a 9

Yn y gymuned – sesiwn sgwrsio/rhannu straeon wyneb yn wyneb gyda phâr o bobl ifanc drawsryweddol ag awtistiaeth. 

Janys ddatblygodd y sgript, ar sail yr holl sesiynau hyn, lle cafodd ei hysbrydoli gan y straeon a rannodd y bobl ifanc. Mynegodd nifer o gyfranogwyr awydd i fod yn y cast cymunedol. A dyma eich cyfle chi i weld y ddrama ysgytwol hon.

Am beth yn union y mae’r ddrama, felly?

Mae Glyn a Sarah yn ceisio agor Clwb Ieuenctid newydd. A fydd unrhyw un yn dod neu ai’r cyfan fydd yn digwydd yw bod pawb yn chwarae eu Gemau Bwrdd eu hunain?

Mae pawb fel pe baent yn poeni am rywbeth. Mae Chloe yn poeni am ei gwallt, mae Lila yn poeni nad yw mor glyfar â Mia, mae Mason yn poeni am ei swydd ac mae Nathan yn meddwl ei fod yn greadur estron.

O ran Molly a Tommy – does neb yn gwybod beth sy’n poeni Molly; a ble yn y byd mae Tommy? 

Archebwch eich tocynnau’n awr!

Os ydych wedi bod yn cymryd rhan neu os byddwch yn mynd i’r sioe – rhannwch @cadw.wales #DiwrnodYnEinBywydNi #ADayInTheLifeOfUs