Gutun Owain a diwylliant ysgolheigaidd y gogledd-ddwyrain yn yr Oesoedd Canol diweddar
Mae Cadw yn cefnogi'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar gyfer y prosiect ‘Cymro cyntaf y Dadeni Dysg?: Gutun Owain a diwylliant ysgolheigaidd y gogledd-ddwyrain yn yr Oesoedd Canol diweddar’.
Bwriad y prosiect newydd a chyffrous hwn, a fydd yn cychwyn ar 1 Mai 2025, yw cyhoeddi golygiadau newydd o gerddi gan y bardd a’r ysgolhaig Gutun Owain, ac archwilio ei gyfraniad i ddysg ei ardal ar drothwy’r Dadeni Dysg. Cynhelir y prosiect rhwng 1 Mai 2025 a 31 Gorffennaf 2027, a bydd y tîm yn cynnwys Dr Jenny Day, Dr Gruffudd Antur a Dr Martin Crampin, gyda’r Athro Ann Parry Owen yn ymgynghorydd.
Roedd Gutun Owain yn un o feirdd amlycaf yr Oesoedd Canol diweddar, ac yn ysgrifydd ac ysgolhaig a ymddiddorai mewn sawl maes gan gynnwys hanes, achyddiaeth a gramadegau barddol. Yn Nudlust, ger Croesoswallt, yr oedd ei gartref, ac roedd yn rhan o rwydwaith o noddwyr ac ysgolheigion eraill a estynnai ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac a oedd yn cynnwys nid yn unig beirdd ac uchelwyr lleyg dysgedig ond hefyd abadau Sistersaidd Glyn-y-groes a Dinas Basing.
Meddai Susan Mason, Pennaeth Dysgu Gydol Oes Cadw:
“Mae Cadw yn falch iawn o allu cefnogi’r gwaith ymchwil pwysig hwn ar ffigwr mor arwyddocaol yn hanes diwylliannol a llenyddol Cymru.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfoethogi ein gwybodaeth am y cymeriadau hynny a oedd yn rhan o’n tirwedd artistig a hanesyddol.”
Gweler Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI yn dyfarnu £234,138 i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am fwy o wybodaeth.