Mae’r crannog yn Llyn Syfaddan yn ddarn unigryw o hanes Cymru yn yr oesoedd canol cynnar—dyma ynys artiffisial a grëwyd yn yr 8fed neu’r 9fed ganrif AD, ac a oedd yn gartref bonheddig â chysylltiadau i Frenin Brycheiniog.
Cafodd y safle ei ailddarganfod yn yr 1860au, ond nid oedd dealltwriaeth lwyr nes i archeolegwyr gynnal cloddiadau yn yr 1990au a’r 2000au. Mae’n debyg i’r crannog gael ei adeiladau tua 890 AD, gan ddefnyddio pren, bangorau, a cherrig i godi’r strwythur ar ynys o fawn. O fewn 30 mlynedd, cafodd ei dinistrio gan Frenhines Aethelflaed o Mersia yn 916 AD. Daethpwyd o hyd i emwaith, eitemau crefyddol, a thiwnig wedi’i frodio â sidan yno, arwyddion o bwysigrwydd brenhinol a diwylliannol y safle.
Yn 2024, ar ôl ymweliad, mynegodd Warden Henebion Maes Cadw ei bryder am yr helyg a dyfai ar yr ynys—yn enwedig dwy o rai mawr a oedd mewn cyflwr gwael. Roedd y perygl yn amlwg: pe bai’r coed yn disgyn, gallai eu gwreiddiau ddifrodi talpiau mawr o’r crannog, gan ddatgelu’r olion dan y ddaear i ocsigen a chyflymu dadelfeniad y deunyddiau organig. Gan gydnabod y brys, arweiniodd Cadw brosiect mewn partneriaeth â'r tirfeddiannwr a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gynllunio rhaglen ofalus i dorri coed, rhaglen a oedd yn ystyriol o statws y safle fel heneb gofrestredig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Ym mis Medi 2025, treuliodd Leaf Arboriculture and Forestry bythefnos yn gwneud gwaith torri coed heriol a gofalus ar safle’r crannog. Er mwyn diogelu'r haenau archeolegol a’r strwythurau pren bregus a oedd dan ddŵr, defnyddiwyd matiau tocion a thorrwyd y coed helyg mawr mewn darnau, gan winsio pren i lawr yn ofalus.
Denfyddiwyd Truxor, cerbyd amffibiaidd a oedd eisoes wedi’i ddefnyddio yng Nghastell Caerffili, i gludo deunyddiau ar draws y llyn i gael eu prosesu ar y lan. Roedd hyn yn sicrhau bod y gwaith yn gwneud cyn lleied o ddifrod ag oedd yn bosibl.
Cafodd tua 75% o'r coed ar y crannog, helyg yn bennaf, eu torri i lawr i lefel y ddaear. Bydd y rhain yn aildyfu ac yn helpu i amddiffyn ymylon y crannog. Gwnaed y gwaith gyda chaniatâd SoDdGA gan CNC, ac mewn ymgynghoriad â Warden Henebion Maes Cadw, gan ddilyn yr holl amodau grant a chaniatâd. Cafodd tocion eu torri a'u tynnu, a gadawyd boncyffion mwy i greu pentyrrau cynefin ar yr ynys.
Mae'r gwaith hanfodol hwn wedi lleihau'r perygl o ddifrod trychinebus gan wreiddiau, ac wedi sicrhau bod un o henebion archeolegol pwysicaf Cymru dal yn ddiogel. Trwy weithredu ar unwaith, mae Cadw a'i bartneriaid wedi diogelu olion bregus y crannog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ddiogelu ei hanes unigryw a’r straeon sydd dan wyneb Llyn Syfaddan.
Ymaelodwch â Cadw er mwyn cefnogi ein cenhadaeth i warchod treftadaeth Cymru. Cewch fynediad diderfyn i dros 130 o safleoedd hanesyddol yn ogystal â’n cylchgrawn unigryw i aelodau, Etifeddiaeth y Cymry, lle cewch ddysgu mwy am ein prosiectau cadwraeth uchelgeisiol.