Gweithdai creu pypedau gan Cadw yn swyno teuluoedd ledled gogledd Cymru
Dyma ddreigiau!
Mae tîm Dysgu Gydol Oes Cadw wedi darparu amrywiaeth o weithdai gwneud pypedau ar y cyd â Youth Shedz Cymru a Puppet Soup yr haf hwn.
Mae'r gweithdai wedi cael eu cyflwyno mewn amryw o leoliadau cymunedol ledled gogledd Cymru. Gan wahodd teuluoedd a phobl ifanc i greu eu draig Gymreig eu hunain, bu’r cyfan yn llwyddiant ysgubol.
Mae'r gweithdai, dan arweiniad Puppet Soup — grŵp pypedwaith wedi'i leoli yng Nghymru — yn rhan o brosiect Mythau a Chwedlau Cymru sy'n annog pobl ifanc i ddysgu am hanes cyfoethog mythau a chwedlau Cymru wrth ddysgu celfyddyd hynafol pypedwaith.
Yn ystod y broses greadigol, roedd yna nifer o gymeriadau pyped i’w cyfarfod. Bu’r rhain yn ysbrydoli'r crewyr ifanc i feddwl sut y gallai eu dreigiau gael eu dwyn yn fyw a hedfan ar draws awyr gogledd Cymru.
Erbyn diwedd y gweithdai, roedd teuluoedd a phobl ifanc wedi creu dros gant o bypedau draig o ddyluniadau a lliwiau syfrdanol: wrth ddarganfod mythau'r Gymru hynafol a'i dreigiau chwedlonol.
I gael rhagor o wybodaeth am dîm Dysgu Gydol Oes Cadw a'u prosiectau presennol, cysylltwch â cadw.education@gov.wales
Mae Youth Shedz yn fenter arobryn sy'n darparu lle diogel i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, i ddatblygu perthnasoedd cymdeithasol gyda modelau rôl addas, ac i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd.
I gysylltu â'r grŵp, e-bostiwch: info@youthshedz.com
Cwmni theatr arobryn yw PuppetSoup sy’n creu ‘pypedau’. I bawb. Gan gynnig sioeau, cyrsiau, dosbarthiadau a gweithdai, mae'r grŵp hefyd yn darparu digwyddiadau a phrosiectau cymunedol.
I gael gwybod mwy, e-bostiwch: info@puppetsoup.com