Historic Royal Palaces yn lansio'r Gwobrau Addysgu Hanes Ysbrydoledig newydd sbon
Bydd yr elusen annibynnol – sy'n gofalu am Dŵr Llundain, Palas Hampton Court, Palas Kensington, Castell a Gerddi Hillsborough, a mwy – yn dathlu athrawon y DU sy'n gwneud hanes yn gyffrous, yn gynhwysol ac yn ystyrlon.
Yr hanesydd a’r darlledwr poblogaidd Lucy Worsley fydd yn arwain y panel beirniadu cenedlaethol, ochr yn ochr â Greg Jenner, Sathnam Sanghera, Dan Jones, Shalina Patel ac eraill.
Llundain, y DU - Dydd Mawrth 21ain Hydref 2025 – Mae Historic Royal Palaces yn cyhoeddi heddiw bod ei Wobrau Addysgu Hanes Ysbrydoledig cyntaf bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Wedi’i gyflwyno gyda chefnogaeth yr Historical Association (y Gymdeithas Hanesyddol) a phartneriaid ledled y DU, mae’r cynllun gwobrau cenedlaethol newydd hwn yn dathlu athrawon sy’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn ystafelloedd dosbarth ledled y wlad.
Yn fwy nag erioed, mae hanes yn bwnc hanfodol mewn ysgolion, gydag athrawon gwych ledled y DU yn ysbrydoli cariad tuag at a gwerthfawrogiad o'r gorffennol. Maen nhw’n helpu i wneud synnwyr o’r byd a lle rhywun ynddo. Maen nhw'n ysgogi chwilfrydedd drwy archwilio straeon pwysig sy'n berthnasol i bawb. Ac maen nhw'n annog pobl ifanc i ofyn cwestiynau a datblygu meddwl beirniadol – sgiliau hanfodol yn oes y cyfryngau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial.
I gydnabod y gwaith pwysig hwn, bydd Historic Royal Palaces (HRP) yn dyfarnu 10 enillydd rhanbarthol a chenedlaethol – pob un yn derbyn gwobr ariannol o £500 iddyn nhw eu hunain ac £500 i’w hysgol ynghyd ag aelodaeth flynyddol o HRP a’r Historical Association (y Gymdeithas Hanesyddol), yn ogystal â’r cyfle i ddod yn Bencampwr Athrawon HRP. Bydd un enillydd cyffredinol yn derbyn £500 ychwanegol iddyn nhw eu hunain ac £500 i’w hysgol, ynghyd ag aelodaeth oes o HRP. Darllenwch y manylion llawn yn hrp.org.uk/teachingawards.
Mae'r Gwobrau Addysgu Hanes Ysbrydoledig yn estyniad o waith Historic Royal Palaces ei hun i ddod â hanes yn fyw i bob plentyn yn y DU. Fel elusen annibynnol, nid yw HRP yn derbyn unrhyw gyllid gan y Llywodraeth na’r Goron ac mae’n dibynnu ar ymwelwyr, aelodau, rhoddwyr a phartneriaid i ofalu am ei chwe phalas rhyfeddol:Tŵr Llundain, Palas Hampton Court, Palas Kensington, y Tŷ Gwledda, Palas Kew, a Chastell Hillsborough a'r Gerddi.
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae wedi ymrwymo i gyrraedd pob ysgol yn y DU drwy ymweliadau ar-y-safle, rhaglenni ysgol, profiadau digidol newydd a chefnogaeth i athrawon. Mae'r Gwobrau Addysgu Hanes Ysbrydoledig yn nodi pennod newydd yn y nod hwnnw ac yn foment genedlaethol amserol i dynnu sylw at athrawon sy’n dod â’r gorffennol yn fyw, yn tanio chwilfrydedd, ac yn ysbrydoli disgyblion.
Mae'r Gwobrau Addysgu Hanes Ysbrydoledig yn ymwneud â dylanwad y tu hwnt i ganlyniadau arholiadau. Bydd y panel beirniadu yn chwilio am arloesedd a dyfeisgarwch: y dosbarth sy’n cael ei gludo mewn ffordd lawn dychymyg i’r Hen Aifft neu Loegr y Tuduriaid; y plentyn sy’n dod adref yn awyddus i rannu ffeithiau syfrdanol; neu’r disgybl sy’n teimlo balchder newydd yn ei gymuned ar ôl darganfod arwr lleol a newidiodd y gymdeithas er gwell.
Pwrpas y wobr genedlaethol newydd sbon hon yw dathlu athrawon o bob cwr o’r DU, ar bob cam yn eu gyrfa, o fewn Addysg Gynradd, Uwchradd, Addysg Bellach, Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd neu Anghenion Cymorth Ychwanegol. Mae enwebiadau yn rhad ac am ddim, yn hawdd i’w gwneud, a gall unrhyw un dros 18 oed eu cyflwyno. Mae’r elusen yn annog cydweithwyr, rhieni, gwarcheidwaid, llywodraethwyr – ac athrawon eu hunain – i gefnogi addysgwyr hanes gwych sy’n gwneud gwahaniaeth.
Ar ddydd Sadwrn 20 Mehefin 2026, cynhelir seremoni fawreddog yn Nhŵr Llundain lle bydd y 10 enillydd rhanbarthol a chenedlaethol yn cael eu dathlu, a bydd enw'r enillydd cyffredinol yn cael ei ddatgelu.
Lucy Worsley, Hanesydd, Darlledwr a Llysgennad HRP, fydd yn arwain y broses farnu i benderfynu pwy sy’n cipio’r brif wobr. Meddai Lucy: "Mae addysgu hanes gwych yn dweud wrth ddisgyblion mwy na'r hyn ddigwyddodd yn unig —mae’n eu helpu i feddwl, cwestiynu a chysylltu â’r byd o’u hamgylch. Rydyn ni’n chwilio am yr unigolion ysbrydoledig sy’n gwneud hyn bob dydd yn eu hystafelloedd dosbarth. Os ydych chi'n un ohonynt – neu’n adnabod rhywun felly – anfonwch enwebiad. Bydd Gwobrau Addysgu Hanes Ysbrydoledig HRP yn gyfle pwysig i ddathlu eu gwaith caled, eu creadigrwydd a’u hangerdd.”
Ar y panel beirniadu cenedlaethol gyda Lucy Worsley mae rhai o haneswyr, addysgwyr ac awduron mwyaf adnabyddus y DU, gan gynnwys:
- Greg Jenner - Hanesydd a Chyflwynydd Podlediad (You’re Dead To Me)
- Sathnam Sanghera - Newyddiadurwr ac Awdur (Empireland, Empireworld and TheBoy with the Topknot)
- Dan Jones - Hanesydd, Awdur a Chyflwynydd Podlediad (This Is History)
- Shalina Patel - Hanesydd, Athrawes ac Awdur (The History Lessons)
- Michael Riley – Addysgwr Hanes ac Academydd
- Katie Hunter – Athrawes Hanes, Actifydd ac Ymchwilydd
I sicrhau bod y gwobrau'n cyrraedd cymaint â phosibl o ranbarthau’r pedair cendl, mae HRP yn cydweithio â sefydliadau ar draws y pedair gwlad ddatganoledig. Mae partneriaid ledled y DU yn cynnwys yr Historical Association – sef y partner cyswllt ar gyfer y gwobrau – a’r Association of Independent Museums. Yng Nghymru, mae HRP yn bles iawn i weithio gyda Cadw; yn yr Alban, gyda'r Royal Collection Trust a Phalas Tŷ Holyroodhouse, y Scottish Maritime Museum, a’r Scottish Association for the Teaching of History; ac yng Ngogledd Iwerddon, gyda National Museums NI a’r History Teachers’ Association of Northern Ireland.
Mae Gwobrau Addysgu Ysbrydoledig HRP bellach ar agor ar gyfer ceisiadau yn hrp.org.uk/teachingawards.
Bydd y cofrestriadau'n cau ar ddydd Sul 25 Ionawr 2026.