Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Heddiw, mae Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi cyhoeddi bod Llys Rhosyr ar Ynys Môn, sef llys pwysig i Dywysogion Gwynedd yn yr oesoedd canol wedi dod i feddiant Cadw ar gyfer y wlad. Bydd hanes y safle arwyddocaol hwn felly yn cael ei gadw a’i warchod ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Wedi’i leoli ger Niwbwrch, Llys Rhosyr yw unig Lys Tywysogion Cymru yng Nghymru sydd ag olion i’w gweld ac y gall y cyhoedd ymweld ag ef. Caiff arwyddocâd diwylliannol y safle hwn ei adlewyrchu yn y ffaith bod Cadw wedi’i ddynodi yn heneb gofrestredig. Bellach, Llys Rhosyr yw heneb rhif 131 a fydd yn cael ei warchod yn uniongyrchol gan Cadw.

Mae llysoedd neu balasau brenhinol Tywysogion Gwynedd ymhlith y cyfadeiladau aneddiadau hynafol pwysicaf yn nhirwedd Cymru’r oesoedd canol. Er bod safleoedd llysoedd eraill yn hysbys o ddogfennau neu wedi eu hawgrymu yn rhai yn sgil proses o gloddio rhannol, Llys Rhosyr yw unig Lys Tywysogion Cymru nas amddiffynnwyd sydd wedi’i gadarnhau drwy gloddio archaeolegol.

Gwnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Llys Llewelyn yn Sain Ffagan, Amgueddfa Cymru.

Mae dau o adeiladau’r llys o Lys Rhosyr wedi eu hail-greu yn Sain Ffagan fel Llys Llewelyn. Mae’r rhain yn enghreifftiau diddorol o archaeoleg arbrofol ar waith ac maen nhw o gymorth i gyflwyno pobl i fyd Cymru yn yr oesoedd canol.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu prynu’r safle arwyddocaol hwn yn hanes Cymru. Bydd Cadw nawr yn bwrw ati â’r gwaith er mwyn sicrhau bod y safle yn cael ei warchod yn iawn a bod modd i bawb ymweld ag ef a’i werthfawrogi.

“Mae ymweld â Llys Llywelyn yn Sain Ffagan wedi rhoi cipolwg hynod o ddiddorol o ran naws a golwg y safle gwreiddiol ym Mׅôn– a pha mor bwysig oedd y safle i hanes Cymru.

“Ac wrth gwrs, mae gan wir safle Llys Rhosyr bosibiliadau archeolegol mawr yn ogystal â naws bwysig am le gyda golygfeydd tuag allan ar hyd y Fenai a thuag at fynyddoedd Eryri. Manteisiodd Tywysogion Gwynedd ar y rhain yn ystod ymosodiadau.”

Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni Cyhoeddus,

"Adeiladwyd Llys Llywelyn fel rhan o ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n dod â phrofiad llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd yn fyw i'n hymwelwyr.

"Mae'n adeilad poblogaidd ac fe'i defnyddir ar gyfer llawer o ddigwyddiadau megis gigs cerddoriaeth, gwleddoedd canoloesol ac aros dros nos. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Cadw a pharhau gyda'r berthynas rhwng cymuned leol Llys Rhosyr ar Ynys Môn ac ailgread y  Llys yma yn Sain Ffagan."