Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd y swydd hon yn gymorth i reoli a chyflawni’r gwaith cadwraeth ar gyfer henebion hanesyddol a chofrestredig yn ogystal â gwaith cynnal a chadw gweithredol nad yw’n gysylltiedig â Rheoli Cyfleusterau yn ei 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gwasanaethau Cadwraeth yn cael eu darparu i safon uchel, yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth statudol er mwyn sicrhau bod safleoedd Treftadaeth y Byd a henebion cofrestredig Cadw ledled Cymru yn cael eu cadw’n dda, yn ddiogel ac yn hygyrch, gan roi profiadau cadarnhaol i ymwelwyr o fewn eu rhanbarth. 

Bydd angen i ymgeiswyr fod â chymhwyster NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol gydag o leiaf pum mlynedd o brofiad mewn gwaith tebyg, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Bydd angen i’r rheolwr cadwraeth fod yn arweinydd medrus ar dimau crefft o seiri a seiri maen, yn ogystal â meddu ar y gallu i gaffael, penodi a rheoli contractwyr allanol ac ymgynghorwyr arbenigol ar waith prosiectau gweithredol a phrosiectau bach.

Rheolwr Gwaith Cadwraeth       

Canol De Cymru                

Cyflog: £31,210 i £38,160 a buddion pensiwn

Am fanylion llawn ynghylch y swydd a sut i ymgeisio, ewch i: Swyddi Gwag