Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae 'Caerllion Rufeinig - Gweithio mewn Partneriaeth' eich angen chi! 

Mae Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio i wneud y mwyaf o botensial treftadaeth Rufeinig Caerllion. Mae angen barn pobl leol i helpu i benderfynu ar weledigaeth ar y cyd ar gyfer Caerllion ac archwilio opsiynau i ddarparu profiad gwell ar draws y safleoedd Rhufeinig a’r safleoedd hanesyddol eraill yng Nghaerllion er budd y gymuned ac ymwelwyr. 

Bellach, rydym yn galw am ddatganiadau o ddiddordeb gan bedwar gwirfoddolwr sy'n byw a/neu'n gweithio yng Nghaerllion i ymuno â chynllun Caerllion Rufeinig – Gweithio mewn Partneriaeth a helpu gyda'r gwaith hwn mewn un o ddwy rôl wahanol. 

Rydym yn chwilio am ddau berson i ymuno â'r Bwrdd Llywodraethu mewn rôl gynghori fel Eiriolwr Cymunedol Caerllion – Bwrdd Llywodraethu. Mae'r Bwrdd yn goruchwylio gwaith Caerllion Rufeinig – Gweithio mewn Partneriaeth, ac yn cyfarfod bob rhyw 6 mis. 

Hefyd, rydym yn chwilio am ddau arall i fod yn aelodau o'r Grŵp Llywio yn rôl Eiriolwr Cymunedol Caerllion – Grŵp Llywio. Mae'r Grŵp hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu a chyflawni prosiectau i gyflawni'r weledigaeth. Mae'n cyfarfod bob rhyw 3 mis. 

Ar gyfer y ddwy rôl, rhaid i chi fod yn barod i hyrwyddo ein gwaith yn y gymuned a mynd ati i gasglu amrywiaeth o safbwyntiau lleol a'u rhannu. 

Mae dod yn Eiriolwr Cymunedol Caerllion yn rôl wirfoddol bwysig, ac mae treuliau ar gael i annog pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais. Mae'r Bwrdd Llywodraethu yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl ifanc (18 oed neu hŷn) a'r rhai sy'n gweithio yng Nghaerllion. Bydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod amseroedd cyfarfodydd a digwyddiadau yn cyd-fynd â phryd rydych chi ar gael. Mae'r disgrifiadau rôl yn rhoi mwy o fanylion am y ddwy rôl, y sgiliau a'r priodoleddau gofynnol, a threuliau. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. 

Disgwylir i’r ddwy rôl Eiriolwr Cymunedol Caerllion bara am flwyddyn gyda'r posibilrwydd o'u hymestyn am ddwy neu dair blynedd yn amodol ar gyllid ac adolygiad blynyddol gan y Bwrdd. Disgwylir i Eiriolwyr Cymunedol Caerllion gadw at Gylch Gorchwyl naill ai'r Bwrdd Llywodraethu neu'r Grŵp Llywio. 

Am gopi o ddisgrifiadau’r rolau a'u cylch gorchwyl, neu i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, e-bostiwch rebecca.harfield@llyw.cymru erbyn 31 Mai 2024. 

Dylai datganiadau o ddiddordeb ystyried y disgrifiadau rôl perthnasol a chynnwys y wybodaeth ganlynol: 

• Amlinelliad o bwy ydych chi a'ch sgiliau a rhinweddau perthnasol, ac unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych 

• Crynodeb o'r rhesymau pam rydych chi am fod yn Eiriolwr Cymunedol Caerllion ar gyfer naill ai'r Bwrdd Llywodraethu neu'r Grŵp Llywio. 

Nodwch: ni all yr un person wneud y ddwy rôl. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y ddwy rôl, nodwch pa rôl fyddai orau gennych yn eich datganiad o ddiddordeb. 

Bydd y Bwrdd Llywodraethu yn penodi pedwar Eiriolwr Cymunedol Caerllion.