Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae’r cynhyrchiad teithiol newydd o’r Mabinogion, ymhith rhai o uchafbwyntiau Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2022, sy’n dychwelyd eleni, ym mis Medi a Hydref, i gynnig perfformiadau byw mewn lleoliadau treftadaeth ar hyd a lled Cymru. 

Mae Y Mabinogi, gan gwmni theatre Struts and Frets, yn gynhyrchiad dwyieithog, site spesifig, ac yn addasiad newydd o Bedair Cainc y Mabinogi,fydd yn cael ei lwyfannu mewn 12 o leoliadau ysbrydoledig Cadw ar hyd a lled Cymru. Dilynwch hynt a helynt Rhiannon, Blodeuwedd a Pryderi mewn cyfnod pan oedd hud a lledrith yn cwrsio trwy dirwedd Cymru, pan oedd brwydrau epig a swynion gan ddewinoedd, a phan oedd straeon anhygoel am gewri yn llenwi'r aer. 

Yn ôl Sue Mason, Pennaeth Dysgu Gydol Oes Cadw:

'Mae Tîm Dysgu Gydol Oes Cadw wedi bod yn cefnogi’r ŵyl hon yn frwd ers blynyddoedd lawer, hyd yn oed yn ystod anawsterau a chyfyngiadau’r pandemig. Rydym wedi gweld ein hunain yr holl ddysgu llawn mwynhad sy’n digwydd drwy’r profiadau hudolus hyn ar ein safleoedd neilltuol ledled Cymru, lle digwyddodd yr hanes mewn gwirionedd.'

Gyda straeon gafaelgar, pypedau, cerddoriaeth fyw, gwisgoedd anhygoel a chast ensemble o 6 actor talentog, bydd Y Mabinogi yn siwr o gyffroi’r gynulleidfa ifanc gydag anturiaethau’r cymeriadau, gan gynnwys y cawr Bendigeidfran wnaeth gamu ar draws y moroedd.

Meddal Francesca De Sica , Cyfarwyddwr Artistig Strus and Frets;

'Bydd ein addasiad o’r Mabinogion yn ddathliad o dreftadaeth a hunaniaeth Cymru, o gyfoeth yr iaith Gymaeg a’r tirwedd godidog.  Rydym wrth ein bodd gallu partneru gyda Cadw a Gŵyl Hanes Cymru i Blant, ac edrychwn ymlaen at rannu ein addasiad o’r straeon clasurol yma gyda plant Cymru.'

Bydd miloedd o blant yn cael y cyfle i ddysgu mwy am eu hanes, wrth i sefydliadau treftadaeth a chelfyddydol ddod at ei gilydd i gynnig rhaglen llawn o ddigwyddiadau, ar leoliad ac yn ddigidol.

Bydd yr ŵyl, sydd am ddim i ysgolion, hefyd yn cynnwys sioe newydd am abad o’r 6ed ganrif – Sant Cadfan, wnaeth sefydlu eglwys yn Nhywyn, Gwynedd, cyn mynd ar bererindod i Ynys Enlli. Yr actor Llion Williams fydd yn chwarae rhan Sant Cadfan, ac meddai:

'Dwi wir yn edrych ymlaen at berfformio, a rhannu’r stori am bererindod Sant Cadfan i Ynys Enlli – lle claddwyd 20,000 o seintiau yn ôl y sôn,  gyda plant Cymru . Byddwn ni’n llwyfannu’r sioe mewn wahanol eglwysi ar hyd y ffordd , gan gynnwys Eglwys Sant Cadfan yn Nhywyn, Cadeirlan Bangor, a’r Capel ar Ynys Enlli.'

Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformiadau gan Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, a sioe am Bennaeth du cyntaf Cymru, Betty Campbell, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ym Mae Caerdydd.

Law yn llaw â pherfformiadau mewn lleoliadau treftadeth, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai rhithiol, wedi’u hwyluso gan Amgueddfa Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, IntoFilm ag eraill.

Meddai Eleri Twynog, un o Gyfarwyddwyr yr ŵyl:

'Gyda dyfodiad y cwricwlwm newydd, a’r pwyslais cynyddol ar ddysgu am hanes Cymru, mae’r ŵyl yn fwy perthnasol nag erioed. Ry’n ni’n gyffrous iawn gyda’r rhaglen eleni, ac wrth ein bodd, ar ôl dwy flynedd o gynnal yr ŵyl yn ddigidol yn unig,  i allu croesau ysgolion unwaith eto i ymweld â lleoliadau treftadaeth ar gyfer gwylio sioeau byw. Tra’n gwahodd ysgolion i gymryd rhan,  dymunwn ddiolch i’r holl bartneriaid am ddarparu cynnwys mor gyffrous ac ysbrydoledig.'

Bydd Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2022 yn digwydd rhwng Medi 12fed – Hydref 21.

Gall ysgolion archebu sesiynnau, ar sail y cyntaf i’r felin,  drwy ymweld â’r wefan www.gwylhanes.cymru

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Eleri Twynog ar 07891383392, neu Ffion Glyn ar 07900556513

Gwyl Hanes Cymru / Children's festival of Welsh history graphic