Mynediad am ddim i blant i safleoedd Cadw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr
Ddydd Sul nesaf [dydd Sul 14 Medi], bydd llawer o safleoedd diwylliannol, cestyll a henebion ledled Cymru yn rhad ac am ddim i blant ymweld â nhw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.
Mae llawer yn ystyried mai Tywysog brodorol olaf Cymru oedd Owain Glyndŵr a chaiff ei goffáu bob blwyddyn ar 16 Medi, gan nodi’r diwrnod y cafodd yr arwr cenedlaethol Cymreig ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr yn 1400.
Mae 16 Medi hefyd yn symbol o ddechrau 'gwrthryfel Glyndŵr' - gwrthryfel 15 mlynedd yn erbyn rheolaeth Harri IV yn Lloegr. Er na lwyddodd yn y pen draw, fe wnaeth roi ymdeimlad o hunaniaeth a balchder eto i bobl Cymru.
Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy'n cyflwyno’r cynnig mynediad am ddim, yn gofalu am gannoedd o lefydd nodedig ledled y wlad. Yn ystod ei wrthryfel, gwarchaeodd Owain Glyndŵr ar lawer o'r cestyll enwog sydd bellach yng ngofal Cadw, gan gynnwys Caernarfon, Coety, Dinefwr a Chydweli.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
"Mae Owain Glyndŵr yn parhau i fod yn un o ffigurau mwyaf nodedig Cymru, ac mae ei etifeddiaeth yn parhau i lunio ein hunaniaeth genedlaethol heddiw.
"Drwy gynnig mynediad am ddim i blant ar safleoedd Cadw yn ei enw, rydym yn cysylltu ein cenhedlaeth nesaf â'r cyfnod hollbwysig hwn yn hanes Cymru. Nid cerrig a morter yn unig yw ein cestyll a'n henebion godidog - maen nhw'n dystiolaeth fyw ac mae'n briodol ein bod yn eu gwneud yn hygyrch i bawb wrth i ni goffáu'r diwrnod y cafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru."
Dywedodd Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes:
"Rydym yn gobeithio, drwy gynnig mynediad am ddim i'r rhai dan 17 oed, bydd mwy o bobl yn cael eu hannog i ymweld â lleoliadau Cadw a rhoi blas go iawn i'w teuluoedd ar hanes cyffrous ac amrywiol Cymru."
"Mae gan bob lleoliad Cadw stori unigryw i'w hadrodd - llawer ohonynt wedi'u llunio gan wrthryfel Owain Glyndŵr. Er na lwyddodd yn ei uchelgais yn y pen draw, mae ei etifeddiaeth yn parhau mewn sawl lleoliad, gan gynnwys rhai safleoedd Cadw."