Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Yn dilyn haf llawn digwyddiadau, mae Cadw wedi cyhoeddi bod Drysau Agored yn ei ôl – gŵyl flynyddol sy'n gwahodd pobl i archwilio lleoliadau hanesyddol mwyaf ysblennydd, anarferol a gwerthfawr ein gwlad, a hynny’n ddi-dâl.

Gyda Chymru yn mwynhau ei gwanwyn a'i haf mwyaf heulog erioed, mae mwy a mwy ohonom yn cael ein hannog i fwynhau'r awyr agored ac ymweld â safleoedd treftadaeth lleol. Mae Drysau Agored yn adeiladu ar y momentwm hwn, gan gynnig mynediad hyblyg am ddim i rai o henebion mwyaf poblogaidd Cymru - perffaith ar gyfer ymweliadau wedi'u cynllunio a diwrnodau mas funud ola' wrth i'r tywydd braf barhau.

Gydol mis Medi, gall ymwelwyr fwynhau llond gwlad o ddigwyddiadau unigryw, teithiau tywys a phrofiadau ymgolli mewn mwy na 200 o dirnodau hanesyddol o Fôn i Fynwy. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn agor eu drysau am y tro cyntaf, gan roi cyfle unigryw i ymwelwyr archwilio treftadaeth gudd.

O gestyll a chapeli i gaerau Rhufeinig a siambrau claddu Neolithig, mae amryw byd o leoliadau yn cymryd rhan. Bydd 19 o henebion eiconig Cadw ei hun yn agor eu drysau fel rhan o'r ŵyl - gan gynnwys Castell TalacharnSiambr Gladdu Barclodiad y Gawres,Gwaith Haearn Blaenafon.

Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, mae'r ŵyl Drysau Agored yn rhan o ddathliad ehangach Diwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy'n ymroi i arddangos tapestri cyfoethog diwylliannau ar draws y cyfandir. Yng Nghymru, mae'n agor porth i ymwelwyr o bob oed gamu i'r gorffennol, ymgolli yn nhreftadaeth fywiog y genedl, gan ddatgelu'r straeon cyfareddol sydd wedi helpu i lunio  hunaniaeth ein cenedl.

Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Uwch Reolwr Digwyddiadau a Chelfyddydau Treftadaeth Cadw: 

“Mae Drysau Agored yn gyfle gwych i bobl ddarganfod a dathlu cyfoeth a chadernid pensaernïaeth hanesyddol Cymru, gan wneud treftadaeth yn hygyrch i bawb.

“Drwy groesawu ymwelwyr yn rhad ac am ddim, rydym yn agor llwybrau i flasu hanes a diwylliant Cymru yn eu holl amrywiaeth gan annog pawb i helpu i warchod y lleoliadau rhyfeddol hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae rhestr lawn o'r lleoliadau sy'n cymryd rhan ar wefan Cadw, ac mae rhai o'r uchafbwyntiau yn cynnwys: 

Y De 

Gwaith Haearn Blaenafon, Blaenau Gwent

13 a 14 Medi, 11am-4pm

Mae Gwaith Haearn Blaenafon, unig Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn ne Cymru, yn fyd-enwog fel y cyntaf i harneisio pŵer stêm i chwythu aer i'w ffwrneisi chwyth enfawr yn y 18fed ganrif. Yn ystod gŵyl Drysau Agored, gall ymwelwyr weld olion dramatig y ffwrneisiau, y ffowndri  a'r tŵr cydbwyso dŵr uchel. 

Abaty Nedd, Castell-nedd Port Talbot

27 a 28 Medi, 10am-11.30am a 2pm-3.30pm

Abaty Nedd, a sefydlwyd ym 1130, yw un o'r adfeilion mynachaidd mwyaf trawiadol yn ne Cymru. Dyma oedd un o abatai cyfoethoca'r wlad ar un adeg, ac mae ei olion yn adlewyrchu eiliadau allweddol yn hanes Cymru. Ar gyfer Drysau Agored, gall ymwelwyr gloddio’n ddyfnach i'w stori ar deithiau tywys estynedig.

Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant

17 Medi, 10am-3pm

Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw i ymwelwyr yn ardal Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnig golwg y tu ôl i'r llenni ar grefftwaith a hanes gwneud darnau arian. Yn ystod Drysau Agored, gall ymwelwyr fynd ar daith dywysedig o amgylch y ffatri, archwilio darnau arian prin, celf y dyluniad, ac arwyddocâd byd-eang y Bathdy a hyd yn oed creu eu darn arian eu hunain fel cofrodd. 

Castell Oxwich, Bro Gŵyr

6 a 7 Medi, 11am-4pm

Fel rhan o ŵyl Drysau Agored, cewch fynediad am ddim i Gastell Oxwich sy'n sefyll yn dalog uwchben y bae eang braf. Adeiladwyd y maenordy godidog gan dad a mab (y teulu Mansel) yn oes y Tuduriaid, gyda'r nod o ddangos eu statws a bri cymdeithasol yn hytrach na chreu  amddiffynfa.

Cwrt Insole, Caerdydd 

8, 12, 14 a 15 Medi, amseroedd amrywiol                                                                                                                                        

Mae Cwrt Insole sy’n nythu ym maestref ddeiliog Llandaf o'r brifddinas, yn blasty rhestredig Gradd II* gyda hanes cyfoethog a rhaglen ddigwyddiadau fywiog. Fel rhan o'r ŵyl Drysau Agored, mae'n cynnig cipolwg unigryw o'u Teithiau Lleoliad Ffilm newydd – gyda'r tywysydd yn dangos sut y cafodd y tŷ ei drawsnewid ar gyfer ffilmio sioeau poblogaidd fel Doctor Who, Death Valley a A Discovery of Witches. 

Y Gogledd 

Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres, Ynys Môn

13 a 28 Medi, 11am-4pm

Mae Barclodiad y Gawres yn cynnig cipolwg dadlennol - ac annisgwyl - ar fywydau ein hynafiaid. Wedi'i leoli ar ben clogwyn ysblennydd rhwng Rhosneigr ac Aberffraw, bydd teithiau tywys yn ystod yr ŵyl Drysau Agored yn tyrchu i orffennol Neolithig Cymru. 

Castell Dinbych, Dinbych

20 a 21 Medi, 10am-5pm

Mae'r heneb ryfeddol hon yn un o'r "cylch haearn" o gestyll sefydlodd Brenin Edward I. Dysgwch am ryfeddodau'r castell yn ystod gŵyl Drysau Agored, lle cewch eich cludo yn ôl i anterth y canoloesoedd gyda'i borthdy trawiadol, ei dŵr triphlyg a'i lenfuriau aruthrol, gan gynnig golygfeydd ysblennydd a chipolwg byw ar ei orffennol cythryblus.

Stori Brymbo, Wrecsam

7 Medi, 10am-4pm

Mae Stori Brymbo yn safle treftadaeth ddiwydiannol o arwyddocâd, a bu unwaith yn gartref i weithfeydd glo, haearn a dur ffyniannus. Ar gyfer Drysau Agored, bydd ymwelwyr yn cael rhagflas prin o'r atyniad naw mis cyn iddo agor yn llawn, gan gynnwys teithiau tywysedig ac ambell sesiwn yng nghwmni’r Clwb Ffosiliau Iau (y mae modd eu harchebu ymlaen llaw), ynghyd â chyfle i flasu cynhyrchion gan gynhyrchwyr lleol a fydd yn ymddangos yn yr Hyb Crefft a Chreadigol yn y dyfodol.

Caer Rufeinig Segontium, Caernarfon

13 a 14 Medi, 10am-2pm

Wedi'i sefydlu bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ffynnodd y gaer hon ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig am dri chan mlynedd a mwy. Yn ogystal â rheoli mynediad i Ynys Môn, chwaraeodd ran allweddol yn ddiweddarach wrth amddiffyn arfordir Cymru rhag môr-ladron Gwyddelig. Bydd y lleoliad yn cynnig teithiau tywysedig am ddim yn Gymraeg (10am) ac yn Saesneg (12pm) fel rhan o'r ŵyl.   

Castell Penrhyn, Bangor

13 a 14 Medi, 10am-5pm

Wedi'i adeiladu ar ddechrau'r 19eg ganrif, mae ei bensaernïaeth aruthrol, ei ystafelloedd moethus a'i gasgliad o gelf gain yn adlewyrchu hanes hir wedi'i siapio gan elw'r diwydiant llechi a siwgr, aflonyddwch cymdeithasol, a'r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes gwledydd Prydain. Ym mis Medi, bydd mynediad am ddim am benwythnos cyfan. 

Y Gorllewin 

Castell Talacharn, Sir Gâr

20 a 21 Medi, 11am-4pm

Dyma'r castell 'brown as owls' ys dywed Dylan Thomas, preswylydd enwocaf Talacharn. Ysgrifennodd 'Portrait of the Artist as a Young Dog' yn nhŷ haf y castell, gyda’i olygfeydd gogoneddus o aber afon Taf. Wedi'i adeiladu yn y 13eg ganrif cyn cael ei ddatgymalu'n rhannol yn ystod y Rhyfel Cartref, bydd mynediad am ddim i ymwelwyr am benwythnos cyfan. 

Castell Maenorbŷr, Dinbych-y-pysgod 

17 Medi, 10am-5pm 

Wedi'i leoli'n uchel uwchben traeth euraidd Maenorbŷr, mae'r castell Normanaidd hwn o'r 11eg  ganrif yn gwahodd ymwelwyr i grwydro ei neuaddau hynafol, dringo ei dyrau, a darganfod gwerth canrifoedd o’i straeon. Fel rhan o'r ŵyl Drysau Agored, gall gwesteion fwynhau teithiau unigryw o amgylch Castle House (sydd dim ond yn hygyrch i westeion dros nos fel arfer) gan gynnig cipolwg prin ar yr encil hanesyddol hwn.

Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo 

20 a 21 Medi, 10.30am-4.30pm

Yng nghanol ystad Dinefwr, mae Tŷ Newton yn faenor o'r 17eg ganrif sy'n cyfuno swyn hanesyddol â dehongliad modern. Wedi'i amgylchynu gan dros 800 erw o barcdir, dolydd a choetir, gan gynnwys Parc Ceirw canoloesol, mae'n cynnig profiad naturiol a diwylliannol cyfoethog. Yn ystod Drysau Agored, gall ymwelwyr fwynhau mynediad am ddim i'r tŷ a'r castell.

Llys yr Esgob Tyddewi, Sir Benfro

27, 28 a 29 Medi, 3pm-4pm

Dyma oedd prif breswylfa Esgobion Canoloesol Tyddewi. Gyda strwythur tra addurnedig, mae'n adlewyrchu grym a golud yr eglwys ganoloesol a'i Hesgobion. Yn ystod Drysau Agored, bydd  teithiau tywysedig yn cynnig golwg fwy treiddgar ar hanes a mawredd y lleoliad rhyfeddol hwn.

Y Canolbarth 

Y Dolydd, Wyrcws Llanfyllin, Llanfyllin 

7 Medi, 10-5pm

Wedi'i leoli yng nghanol mwynder Maldwyn, mae Llanfyllin yn gartref i'r unig wyrcws sydd mewn cyflwr da a adeiladwyd o dan Ddeddf Newydd y Tlodion ym 1834 sy'n dal ar agor i'r cyhoedd hyd heddiw. Ar gyfer Drysau Agored, bydd digwyddiad arbennig yn cynnwys ffair fwyd a fydd yn arddangos rhai o gynhyrchion bwyd a diod lleol ardal y gororau, gydag ystod eang o gynnyrch ar gael i'w blasu.

Castell a Gerddi Powis, Y Trallwng

13 Medi, 10am-5pm

Wedi'i leoli yng nghanol tir glas toreithiog gyda golygfeydd ysgubol o Ddyffryn Hafren, mae Castell Powis wedi'i addurno â phaentiadau a ffabrigau addurniadol o'r radd flaenaf o'r cyfnod Elisabethaidd i Edwardaidd. Yn ystod Drysau Agored, gall ymwelwyr archwilio'r castell a'i erddi godidog am ddim.

Archifau Powys, Llandrindod

13 Medi, 10am-1pm

Ar gyfer Drysau Agored, gall ymwelwyr fwynhau teithiau unigryw o amgylch y storfa archif, sy'n dal tua 100,000 o eitemau o Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog hanesyddol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cardiau Nadolig Fictoraidd, llyfrau cyhuddiadau'r heddlu, llyfrau log ysgolion, ac albymau ffotograffig, gyda rhai eitemau yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif.

Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod

13 Medi, 1.30pm-3.30pm

Mae Amgueddfa Sir Faesyfed, sydd wedi'i lleoli yn hen Lyfrgell Gyhoeddus Carnegie, yn arddangos treftadaeth gyfoethog y sir trwy arddangosfeydd archaeolegol, palaeontoleg, hanes natur, a chelfyddyd gain. Yn ystod Drysau Agored, gall ymwelwyr archebu teithiau tywys gyda'r curadur, a fydd yn rhannu straeon ac yn ateb cwestiynau am ei gasgliadau.

Llyfrgell y Drenewydd, Powys

4 a 11 Medi, 18am-25pm

Mae Llyfrgell y Drenewydd yn cadw Casgliad Astudiaethau Lleol ar gyfer Sir Drefaldwyn, sy'n cynnwys mapiau, papurau newydd a deunyddiau cyfeirio. Gydol mis Medi, gall ymwelwyr archwilio'r adnoddau hyn yn ystod diwrnodau agored wythnosol, gyda grwpiau lleol fel y Gymdeithas Ddinesig a'r Gymdeithas Hel Achau yn arddangos deunyddiau ychwanegol.

Dylai ymwelwyr wirio manylion pob digwyddiad gan fod gofynion tocynnau yn amrywio ym mhob lleoliad. 

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys rhestr o'r holl leoliadau sy'n cymryd rhan, amserlen lawn o ddigwyddiadau a gwybodaeth am docynnau, ar gael yma.