Mysterious Maud's Chambers of Fantastical Truth
Dwech i fwynhau Castell Coch yr hydref hwn drwy llygaid newydd wrth i sioe theatr ymgolli newydd gael ei chynnal ― gyda Mysterious Maud's Chambers of Fantastical Truth
Yr hydref hwn, rhwng y 27 Hydref a 7 o Dachwedd, bydd castell gothig Cadw, Castell Coch yn cynnal sioe theatr ymgolli – gyda thocynnau ar gyfer y digwyddiad byw ar gael o heddiw (7 Hydref).
Bydd y digwyddiad ymgolli yn gweld yr Athro Anil Seth (awdur Being You) yn ymddangos fel pen wedi ei ddigorffoli mewn cynhyrchiad theatr ymgolli a ddyluniwyd i ysgogi cwestiynu am natur realiti.
Wedi'i osod yn Castell Coch, mae’r sioe ‘Mysterious Maud's Chambers of Fantastical Truth’ wedi cael ei greu gan Caroline Sabin i fod yn sioe ddifyr a gogoneddus, sydd serch hynny yn cynnwys rhai syniadau cyfnewidiol sy’n seiliedig ar wyddoniaeth.
Mae Sabin wedi cael ei swyno ers amser maith gan gnau a bolltau ymwybyddiaeth ac roedd wrth ei fodd pan gytunodd yr niwro-wyddonydd enwog yr Athro Anil Seth i ymddangos fel pen digorfforol yn nofio mewn jar o fformaldehyd, wedi'i ffilmio, a'i greu gan Chris Crow.
Yn ymuno â'r Athro Seth yn fyw, bydd Gerald Tyler (Wrath of Man, The Lighthouse) fel “The Psychiatrist”, Jon Gower (Nofelydd Cymru y flwyddyn 2012) fel “The Butler” ac ensemble o berfformwyr rhyngwladol a fydd yn plethu stori y gwyddonydd gwallgo Maud wrth iddi ymgodymu â'i gwewyr meddwl.
Dywedodd y gwneuthurwr theatr Caroline Sabin, sy’n cyfarwyddo’r sioe: “Rydyn ni wrth ein boddau o allu cyflwyno’r syniadau hyn yn erbyn y cefndir syfrdanol hwn. Dylai'r ffordd y bydd y gynulleidfa'n gallu symud o amgylch y castell a darganfod eiliadau hudolus sy'n ysgogi'r meddwl iddyn nhw eu hunain greu noson fythgofiadwy.”
“Ar ôl gorfod gohirio’r sioe am flwyddyn oherwydd cyfyngiadau cloi yn 2020, rydyn ni wrth ein boddau i allu camu i’r llwyfan, o’r diwedd.”
Gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi byd rhyfedd ‘Mysterious Maud’, bydd y sioe gyda dehongliad BSL gan Julie Doyle ar 2 Tachwedd 2021. Bydd pob sioe yn cael ei ffrydio’n fyw i ystafell hygyrch ar y llawr gwaelod gan wneud y sioe yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer ‘Mysterious Maud’s Chamber of Fantastical Truths’, a gynhelir rhwng 27 Hydref a 7 Tachwedd, yma. Bydd y sioe yn cychwyn am 7.30pm, gyda thocynnau’n costio £12.00 i oedolion, gyda chonsesiynau yn £10.00. Mae perfformiadau yn addas ar gyfer 12 oed a hŷn.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden MS: “Rydym yn ffodus yng Nghymru i gael cymaint o leoliadau gwych i gynnal cynyrchiadau celfyddydol, ac rwyf wrth fy modd o weld y bydd Castell Coch unwaith eto yn cynnal gwaith arloesol ym maes theatr.
“Mae cynyrchiadau theatr a chelfyddydau yn cynnig profiadau mor unigryw i gynulleidfaoedd, ac rwy’n hyderus y bydd llwyddiant ‘Mysterious Maud’ yn annog hyd yn oed mwy o gwmnïau theatr a chelfyddydau i ystyried llwyfannu eu gwaith yma yng Nghymru.”
Mae gan waith Sabin ddilyniant yng Nghaerdydd ac mae’r sioe yn debygol o werthu allan yn gynnar. Os ydych chi am brofi ei chyfuniad o theatr weledol goeth, twymgalon, doniol a iasol mae’n debyg ei bod hi’n syniad da archebu’ch tocynnau’n gynnar.
Mae Siambr Gwirioneddau Ffantastig Mysterious Maud wedi bod yn bosibl trwy arian gan Lywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Celfyddydau Cymru.