Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Sbwyliwch eich hun i aelodaeth Cadw dros y Nadolig a dechrau cynllunio diwrnodau allan yn rhai o’r caerau enwocaf yng Nghymru. Mae 130 o safleoedd hanesyddol dan ein gofal, ac fel rhan o deulu Cadw byddwch chi’n ein helpu i ofalu am y safleoedd godidog hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae darganfod hanes Cymru yn ffordd wych o ddechrau’r flwyddyn newydd a chofiwch, i aelodau blwyddyn gyntaf, fe allan nhw gael mynediad hanner pris i holl eiddo English Heritage a Historic Scotland hefyd!

Mae buddion aelodaeth yn cynnwys:

  • Mynediad DIDERFYN i bob un o’r 130 o safleoedd dan ofal Cadw
  • Mynediad DIDERFYN i ystod eang o hanes a digwyddiadau teuluol
  • Mynediad HANNER PRIS i holl atyniadau English Heritage a Historic Scotland, gan uwchraddio i fynediad AM DDIM os byddwch chi’n ymaelodi gyda ni’r flwyddyn nesaf
  • Mynediad DIDERFYN i eiddo Manx National Heritage
  • Copi AM DDIM o’r cylchgrawn arobryn, Etifeddiaeth y Cymry
  • Digwyddiadau i aelodau a hyrwyddiadau i aelodau’n unig
  • Y cyfle cyntaf i brynu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau pwrpasol a theithiau cyfyngedig
  • 10% i ffwrdd yn siopau anrhegion Cadw
  • 10% i ffwrdd yn siop anrhegion Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu unrhyw un o safleoedd Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.*
  • 10% oddi ar gyhoeddiadau CBHC.

Mae ein telerau ac amodau ar gael ar cadw.gwasanaeth.llyw.cymru/aelodaeth.

Ymunwch â Cadw heddiw

Amseroedd agor safleoedd Cadw dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n safleoedd treftadaeth dros y gwyliau ond cofiwch, bydd henebion ynghau ar 24, 25 a 26 Rhagfyr, a 1 Ionawr.

Bydd ein castell tylwyth teg – Castell Coch – hefyd ynghau drwy gydol mis Ionawr ar gyfer y gwaith glanhau dwys blynyddol, gan ailagor ddydd Gwener, 3 Chwefror 2023.

Digwyddiadau

Os ydych chi’n dal i chwilio am y digwyddiad Nadolig gwahanol hwnnw, ymunwch â ni yn Llys a Chastell Tretŵr ar 21 Rhagfyr am straeon ysbryd Nadoligaidd.

Byddwn yn casglu yng nghegin ganoloesol Llys Tretŵr i gynnau’r tân a darganfod chwedlau lleol y faenor. Wedi’r cyfan, gwlad o chwedlau yw Cymru.

Nos Fercher 21 Rhagfyr am 5:30pm a 7:30pm. Tocynnau yn £15.

Yn olaf, hoffem ddiolch o galon i chi am eich cefnogaeth barhaus drwy gydol 2022. Edrychwn ymlaen at rannu mwy o anturiaethau hanesyddol gyda chi yn 2023.

Diolch yn fawr / Thank you

Tîm Cadw.