Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae atyniadau treftadaeth, parciau a gerddi Cymru wedi bod ar gau ers mis Tachwedd 2020, ond heddiw (dydd Gwener, 26 Mawrth) mae Cadw, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru — National Museum Wales wedi datgelu cynlluniau i ailagor rhai o'u safleoedd a mannau awyr agored.

Mae'r newyddion yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru yn ddiweddar fod rhai ardaloedd awyr agored safleoedd, parciau a gerddi hanesyddol bellach yn rhydd i groesawu ymwelwyr yn ôl o ddydd Sadwrn, 27 Mawrth ymlaen, wrth lacio rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Yn unol â negeseuon ymgyrch newydd Croeso Cymru, Addo  — mae'r tri chorff treftadaeth yn annog pobl Cymru i wneud addewid i ofalu am ei gilydd a’r gymuned ehangach yng Nghymru wrth iddyn nhw ddechrau dychwelyd i'w hoff atyniadau treftadaeth a gerddi hanesyddol awyr agored. Y gobaith yw y bydd y dull hwn yn annog ymwelwyr i ymddwyn mewn modd diogel a chyfrifol wrth ymweld â safleoedd ledled y wlad.

Mae Cadw wedi datgelu cynllun tri cham ar gyfer ailagor rhai o'i safleoedd treftadaeth, gan gynnwys rhai o gestyll canoloesol, abatai a siambrau claddu cynhanesyddol mwyaf eiconig y wlad.

O ddydd Sadwrn, 27 Mawrth, bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu'n ôl i henebion awyr agored, di-staff Cadw — o Siambr Gladdu Llwyneliddon ym Mro Morgannwg i Briordy Hwlffordd yn Sir Benfro a Chastell Dolforwyn ym Mhowys.

Fodd bynnag, bydd rhaid i ymwelwyr gadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru bob amser.

O ddydd Iau, 1 Ebrill, mae’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol yn bwriadu ailagor ardaloedd awyr agored mewn detholiad o'i henebion mwyaf eiconig.

Er mwyn cael mynediad i henebion sydd wedi'u staffio, bydd angen i ymwelwyr cyffredinol ac aelodau Cadw archebu tocynnau gyda slot amser o leiaf 24 awr cyn eu hymweliad ar aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru/digwyddiadau. Bydd hyn yn caniatáu profiad diogel a phellter cymdeithasol ar y safle i bob deiliad tocyn.

Mae safleoedd sy’n ailagor yn rhannol ddydd Iau, 1 Ebrill, yn cynnwys tri Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, gan gynnwys Cestyll Biwmares a Chonwy a'r ganolfan ddiwydiannol fyd-enwog, Gwaith Haearn Blaenafon. Ymhlith y safleoedd eraill sy’n ailagor mae Cestyll Cricieth, Cydweli a Thalacharn.

Bydd Abaty Tyndyrn, a Chestyll Dinbych, Harlech, Cas-gwent a Rhaglan yn ailagor eu hardaloedd awyr agored i drigolion Cymru o ddydd Mawrth, 6 Ebrill, tra bydd Castell Rhuddlan yn Sir Ddinbych yn ailagor ddydd Iau, 8 Ebrill. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd yr holl ardaloedd dan do yn y safleoedd Cadw hyn yn parhau ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.

Oherwydd gwaith cadwraeth hanfodol neu ragofalon diogelwch coronafeirws, mae atyniadau treftadaeth eraill Cadw, gan gynnwys Castell Caerffili a Chastell Coch yn ne Cymru, a Phlas Mawr a Chastell Caernarfon yn y gogledd, yn aros ar gau ar hyn o bryd.

Bydd tocynnau mynediad yn cael eu rhyddhau ddydd Llun, 29 Mawrth, ar gyfer ymweliadau hyd at ddydd Sul, 11 Ebrill.

Mae Cadw yn argymell bod ymwelwyr yn edrych ar ei wefan i ddarganfod os yw safle penodol ar agor ai peidio cyn teithio. Bydd y wefan hefyd yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn ag archebu tocynnau, a chynlluniau ailagor safleoedd treftadaeth Cadw.

Bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dechrau ailagor ei mannau awyr agored i bobl sy'n byw yng Nghymru yn unig o ddydd Llun, 29 Mawrth. O Gastell Penrhyn yng Ngwynedd i Dŷ Tredegar yng Nghasnewydd, gall ymwelwyr ddychwelyd i'w hoff barciau a gerddi ledled Cymru i fwynhau byd natur, yr awyr iach a mannau agored o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y mannau awyr agored eraill o dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru y mae disgwyl iddyn nhw ailagor mae: Plas Newydd, Gardd Bodnant, Erddig, Castell y Waun, Castell Powis a’i Ardd, Gerddi Dyffryn, a Pharc Dinefwr.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl, a bydd angen i ymweliadau gael eu harchebu ymlaen llaw ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd amseroedd agor yn amrywio ar draws atyniadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, a bydd gofyn i ymwelwyr wirio gwefannau eiddo am fanylion. Mae tu mewn cestyll a phlastai yn dal i fod ar gau yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am brynu tocynnau ac ailagor safleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar dudalennau gwe eiddo unigol ar https://www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/days-out/cymru.

Yn olaf, bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu trigolion Cymru yn unig o fis Ebrill ymlaen. O dan ofal Amgueddfa Cymru, bydd y rhan awyr agored o’r atyniad yn ailagor ddydd Iau, 1 Ebrill tan ddydd Llun, 5 Ebrill a phob dydd Mercher i ddydd Sul wedi hynny.

Bydd atyniadau eraill Amgueddfa Cymru — National Museum Wales yn parhau ar gau o dan reoliadau Llywodraeth Cymru hyd nes y clywir yn wahanol.

Bydd angen i bob ymwelydd â Sain Ffagan archebu tocyn(nau) am ddim ymlaen llaw ar Eventbrite cyn eu hymweliad, drwy ymweld â www.amgueddfa.cymru. Bydd tocynnau ar gael i'w harchebu o 3pm ddydd Gwener, 26 Mawrth, ar gyfer yr wythnos sy’n dod. Ar hyn o bryd, dim ond trigolion Cymru all archebu tocynnau, gyda phob deiliad tocyn i gadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Bydd mannau dan do’r tri chorff treftadaeth Cymru yn parhau ar gau hyd nes y cyhoeddir cyngor pellach gan Lywodraeth Cymru.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn nodi mai dim ond i ymwelwyr sy'n byw yng Nghymru y gall atyniadau awyr agored Cymru agor, gyda thrigolion yn gallu teithio heb gyfyngiadau pellter o fewn Cymru. Mae cyfyngiadau gwahanol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gydag ymwelwyr o'r lleoliadau hyn wedi’u gwahardd rhag teithio i Gymru neu ymweld ag atyniadau awyr agored Cymru ar hyn o bryd.