Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yn naturiol, mae cartref yr Eisteddfod wedi magu ei siâr o feirdd — o brydyddwyr canoloesol i feirdd adeg rhyfel a chrefftwyr geiriau modern.

Heddiw, ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd (21 Mawrth), rydym ni’n edrych ar ddau o feirdd enwocaf Cymru ac yn trafod yr etifeddiaeth a adawyd ar eu holau — ar adeiladau hanesyddol Cymru.

Pedwar adeilad rhestredig sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas...

Cafodd Dylan Thomas ei enwi ar ôl Dylan Ail Don o'r ‘Mabinogi’, a chafodd ei eni ar 27 Hydref 1914 yn Rhif 5, Cwmdonkin Drive yn Abertawe.

Mae’r tŷ pâr rhestredig Gradd II sy’n swatio yng nghanol Cwmdonkin lle treuliodd Dylan Thomas y rhan fwyaf o'i blentyndod, bellach dan warchodaeth Cadw — a bu’n ddylanwad sylweddol ar waith y bardd. Gwnaeth hyd yn oed ymddangos yn un o'i ddarnau olaf: 'A Child’s Christmas in Wales'.

Home of Dylan Thomas 5 Cwmdonkin Drive

© Hywel Williams, CC BY-SA 2.0, Wikimedia Commons

5 Cwmdonkin Drive: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Gorffennaf 1994

Dim ond yn Saesneg roedd Dylan yn ysgrifennu ac ni ddysgodd Gymraeg erioed. Yn anffodus, bu hyd yn oed yn cael gwersi llefareg i'w atal rhag datblygu acen Gymreig; roedd ei rieni'n ofni y byddai'n ei ddal yn ôl.

Mynychodd y bardd ifanc Ysgol Ramadeg Abertawe lle'r oedd ei dad yn bennaeth Saesneg — ac yn yr adeilad rhestredig Gothig hwn, sydd bellach yn Rhestredig Gradd II, y dechreuodd ysgrifennu ei gerddi cynharaf. Gadawodd yn 16 oed, a chyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, 'Light breaks where no sun shines' bedair blynedd yn ddiweddarach.

Ysgol Ramadeg Abertawe / Swansea Grammar School

© Swanseajack4life, CC BY-SA 3.0, Wikimedia Commons

Ysgol Ramadeg Abertawe: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Gorffennaf 1984

Yna cymerodd Dylan swydd fyrhoedlog fel gohebydd gyda’r South Wales Daily Post yn Abertawe ac, yn ddiweddarach, bu'n gweithio fel newyddiadurwr llawrydd, gan barhau i ysgrifennu straeon byrion, adolygiadau a sgriptiau ar gyfer ffilm a radio.

Dros amser, fe’i gwnaed yn enwog gan ei waith yn y DU ac UDA ac mae wedi parhau'n boblogaidd — dyfynnwyd un o'i gerddi enwocaf, ‘Do not go gentle into that good night’, yn y ffilm Independence Day o 1996, hyd yn oed.

Dylanwadwyd yn drwm ar ei waith pellgyrhaeddol gan ei blentyndod a'i fagwraeth yng Nghymru — fel y dangosir yn ei gerdd fer 'Fern Hill'. Cyhoeddwyd y gerdd yn 1945, ac mae’n dwyn i gof gwyliau plentyndod yn nhŷ fferm ei fodryb a’i ewythr yn Llangain, sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II a ddiogelir gan Cadw.

Y Cwt Cychod a’r Sied Ysgrifennu / Dylan Thomas Boathouse, Laugharne

© Dylan a'r Boathouse, Talacharn, Sir Gâr, 16/5/2009, Wikimedia Commons 

Y Cwt Cychod a’r Sied Ysgrifennu / Dylan Thomas Boathouse Toolshed

© Tony in Devon, CC BY-SA 4.0, Wikimedia Commons

Tŷ Fferm Fern Hill: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Chwefror 1974

Treuliodd Dylan Thomas ei flynyddoedd olaf yn ysgrifennu mewn Cwt Cychod yn Nhalacharn a sied offer a addaswyd gerllaw — gan gyfeirio at y Cwt Cychod sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II fel “a sea-shaken house on a break-neck of rocks”.

Roedd y bardd enwog yn Efrog Newydd pan fu farw ar 9 Tachwedd 1953 a daethpwyd ag ef yn ôl i Dalacharn — lle cafodd ei gladdu yn Eglwys Sant Martin. Mae ei Gwt Cychod a’r sied wedi'u cadw'n ofalus ers ei farwolaeth annhymig ac yn cael eu rhedeg fel ystafell de a chanolfan dreftadaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Y Cwt Cychod a’r Sied Ysgrifennu: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Gorffennaf 1968

Gellir archwilio a darllen gwaith Dylan Thomas yma: https://www.dylanthomasboathouse.com/

Pedwar adeilad rhestredig sy’n gysylltiedig â Dafydd ap Gwilym…

Roedd Dafydd ap Gwilym yn byw yn y 14eg ganrif ac fe'i hystyrir yn gyffredinol yn un o feirdd gorau Ewrop yn yr Oesoedd Canol — a'r bardd Cymraeg mwyaf o unrhyw oes.

Dywedir iddo gael ei eni i deuluoedd aruchel ym Mrogynin, Penrhyn-coch; bu’r traddodiad barddol yn amlwg yn ei deulu ers cenedlaethau lawer a credid mai ei ewythr, Llywelyn, a helpodd Dafydd i ddysgu’r grefft.

Milwr yn ogystal â bardd oedd Llywelyn, ewythr Dafydd, ac roedd yn gwnstabl yng Nghastell Newydd Emlyn. Treuliodd Dafydd lawer o'i blentyndod gyda Llywelyn, o gwmpas ac yn y castell sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd I. Pan lofruddiwyd Llywelyn flynyddoedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd Dafydd farwnad iddo sydd wedi cyffwrdd darllenwyr gyda'i galar dwys ers dros chwe chant o flynyddoedd .

Castell Newydd Emlyn / Newcastle Emlyn entrance
Castell Newydd Emlyn / Newcastle Emlyn Castle

© WG Zajac (Cadw)

Castell Newydd Emlyn: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd I ym mis Awst 1991

Fel Dylan Thomas, dylanwadwyd yn drwm ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym gan ei fagwraeth a'i fywyd personol – rhywbeth anarferol iawn yn y cyfnod hwn. Roedd barddoniaeth fel arfer yn canolbwyntio ar grefydd neu wleidyddiaeth, pan fyddai arglwyddi ffiwdal pwerus yn talu beirdd i ysgrifennu amdanyn nhw fel math o hysbysebu gwleidyddol.

Roedd Dafydd ap Gwilym, ar y llaw arall, yn ysgrifennu am ramant — neu, yn hytrach, y prinder ohono! Yn un o'i gerddi enwocaf, 'Merched Llanbadarn', mae’n trafod ei ymdrechion aflwyddiannus i fflyrtio gyda menywod wrth fynd i Eglwys Padarn Sant yn ei dref enedigol, Llanbadarn Fawr.

Er mai ysgrifennu’r gerdd â’i dafod yn ei foch wnaeth Dafydd, ymgorfforwyd llinellau ohoni wrth ailaddurno'r Eglwys yn y 1980au, sydd ers hynny wedi dod yn adeilad rhestredig Gradd I — a ddiogelir gan Cadw.

Eglwys Llanbadarn / Llanbadarn Church view from cemetery grounds

© Dylan Moore / Eglwys Llanbadarn: Llanbadarn Fawr, CC BY-SA 2.0, Wikimedia Commons

Eglwys Llanbadarn: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd I ym mis Ionawr 1964

Efallai mai un o gerddi olaf Dafydd oedd 'Englynion Bardd i'w Wallt' — a oedd yn mynd i'r afael â darganfod ei wallt llwyd cyntaf fel symbol o ieuenctid coll.

Mae llawer o ddamcaniaethau ynghylch bywyd a marwolaeth Dafydd ap Gwilym, gydag amcangyfrifon o'i oed pan fu farw yn amrywio o 30 i 50. Credid ei fod wedi dioddef o'r Pla Du a darodd Gymru ganol y 14eg ganrif. Mae hyd yn oed safle ei gladdu wedi bod yn destun dadl.

Mae Abaty Ystrad Fflur ac Abaty Talyllychau — y ddau’n safleoedd rhestredig Cadw — wedi cael eu hawgrymu fel posibiliadau.

Abaty Ystrad Fflur / Strata Florida Abbey poets grave stone

Abaty Ystrad Fflur: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd I ym mis Rhagfyr 1963

Abaty Talyllychau / Talley Abbey

Abaty Talyllychau: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Gorffennaf 1966

Er gwaethaf ei oes fer a'r holl ansicrwydd ynghylch ei fywyd a'i farwolaeth, yr hyn na ellir ei wadu yw'r rhan a chwaraeodd Dafydd ap Gwilym wrth lunio’r traddodiad barddol am ganrifoedd i ddod. Fe'i hystyrir yn 'Arwr Cymreig' mewn cerflun a gomisiynwyd gan DA Thomas ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Mae'r cerflun ohono'n chwarae'r delyn i'w weld hyd heddiw yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, sydd hefyd yn rhestredig Gradd I.

Dafydd ap Gwilym statue

Cerflun Dafydd ap Gwilym: cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd I ym mis Ionawr 1966