Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Wedi'i enwi ar ôl nawddsant cariadon Cymru, mae Dydd Santes Dwynwen wedi tyfu mewn poblogrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf — gyda chariadon ledled Cymru yn cyfnewid cardiau, anrhegion a serchiadau ar 25 Ionawr.

Er bod Dwynwen yn gysylltiedig â diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru, yn anffodus, ni fu’r santes ei hun yn lwcus iawn mewn cariad. Ar ôl cael ei gwahardd rhag priodi'r dyn yr oedd hi'n ei garu, ffodd i Ynys Llanddwyn i ddod yn lleian a threulio gweddill ei hoes yno. Credir bod ei dylanwad i hyrwyddo hapusrwydd cariadon wedi parhau’n hir wedi ei marwolaeth — mae Ynys Llanddwyn yn dal i fod yn gyrchfan pererindod poblogaidd hyd yn oed heddiw.

Mae hanes Cymru yn llawn straeon fel yr un am Santes Dwynwen, felly i ddathlu Dydd Santes Dwynwen rydyn ni'n taflu goleuni ar y straeon y ‘tu ôl i saith o adeiladau rhestredig mwyaf rhamantus Cymru — ac mae gan rai ohonynt ddiweddglo hapusach nag eraill…

  1. Eglwys Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn

Lle addas i ddechrau: adfeilion yr eglwys o'r 16eg ganrif sydd wedi'i chysegru i Santes Dwynwen.

Treuliodd Santes Dwynwen y rhan fwyaf o'i hoes ar Ynys Llanddwyn – ynys fechan oddi ar arfordir Ynys Môn. Am ganrifoedd, mae pobl o bob rhan o Brydain wedi teithio yno i ofyn am gymorth gyda rhamant gan ymweld â safle ffynnon sanctaidd Dwynwen.

Credai pererinion y gellid dyfalu materion y galon drwy symudiad llyswennod cysegredig yn y ffynnon. Byddai’r person a oedd yn ceisio cyngor yn gosod ei hances ar wyneb y dŵr a byddai dynes ddoeth leol yn dehongli ymateb y llyswennod. 

Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ar: Chwefror 1952 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Hydref 1998)

St Dwynwen’s Church / Eglwys Santes Dwynwen

© Noel.morgan2000 / Eglwys Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn / Parth cyhoeddus, trwy Wikimedia Commons

 

  1. Ffynnon Sant Cybi, Llangybi

Ni allai pawb yng Nghymru'r Oesoedd Canol deithio i ynys Dwynwen i gael help i ddod o hyd i bartner, felly roedd pobl yn aml yn troi at eu seintiau lleol am gymorth yn enwedig at y rhai sy’n gysylltiedig â ffynnon sanctaidd fel hon. 

Gorfodwyd Sant Cybi – sant o Gernyw – a’i acolitiaid i ffoi o Iwerddon oherwydd anghydfod ac adleoli i Wynedd, lle dechreuwyd cysylltu’r ffynnon ag ef. Credid bod ei dyfroedd yn fuddiol ar gyfer trin problemau’n ymwneud â’r llygaid, afiechydon croen a chryd cymalau – yn ogystal â materion y galon.

Fel rhan o'r Ŵyl Mabsant, gŵyl Gymreig flynyddol a gynhelir i gofio nawddsant plwyf, byddai pobl yn ymweld â'r lleoliad sydd bellach yn rhestredig Gradd I i ofyn cwestiynau am eu perthnasoedd rhamantus, cyn gosod pluen ar wyneb y dŵr sanctaidd. Yna byddai symudiad y bluen wrth arnofio yn cael ei ddehongli i roi ateb.

Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd I ar: Hydref 1971 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Mawrth 1999)

Ffynnon Gybi/St Cybi's Well

 

  1. Ffynnon Fair, Cefn Meiriadog

Gellir dod o hyd i ffynnon sanctaidd arall, Ffynnon Fair (neu Ffynnon y Santes Fair), wrth ymyl adfeilion y capel canoloesol ar lannau Afon Elwy yn Sir Ddinbych.

Yn gynnar yn yr 17eg ganrif, bu'r capel yn fan ar gyfer amryw o briodasau cudd, yn fwyaf enwog priodasau'r chwiorydd Catrin, Elizabeth a Marie Lloyd; priododd pob un ohonynt yn y dirgel rhwng 1615 ac 1633.

Hyd yn oed gyda'r capel yn adfeilion erbyn y 18fed ganrif, mae'r safle'n dal i fod yn ysbrydoliaeth i ramantwyr, gyda'r bardd, Felicia Hemans, yn mynd cyn belled â chyfansoddi ei theyrnged ei hun i Ffynnon Fair, o'r enw Our Lady’s Well.

Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ar: Mehefin 1998

Ffynnon Fair (St Mary’s Well)

© Llun gan: Ian Taylor (@wellhopper), Facebook

 

  1. Ffynnon Maen Du, Aberhonddu a Ffynnon Antwn Sant, Llansteffan

Mae ffynhonnau Maen Du ac Antwn Sant yn wahanol i'n ffynhonnau rhestredig eraill, oherwydd roedd yn ofynnol i bobl ddod ag eitem gyffredin o gartref gyda hwy — sef pìn — yn gyfnewid am lwc mewn cariad.

Er mai yn yr 1700au y cofnodwyd y traddodiad hwn gyntaf, daeth pwerau Ffynnon Maen Du mor enwog nes i fenywod barhau i ollwng piniau yno ymhell i'r 20fed ganrif.

Ffynnon Maen Du: Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ar: Rhagfyr 1976 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Tachwedd 2005).

Ffynnon Maen Du / Maen Du Well, Brecon

© Alan Bowring / Ffynnon Maen Du / Maen Du Well, Aberhonddu / CC BY-SA 2.0, trwy Wikimedia Commons

Ffynnon Antwn Sant: cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ar: Tachwedd 2002

St Anthony’s Well, Llansteffan / Ffynnon Antwn Sant, Llansteffan

© Llun gan: Luke Rowlands (@wordwaiter), Trydar

 

  1. Ffermdy Cefn Ydfa, Pen-y-bont ar Ogwr

O ran straeon serch trasig, y ddau enw cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw Romeo a Juliet – ond beth am Wil ac Ann?

Gan gyfnewid balconi yn Verona am islawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bu'r ffermdy cyffredin hwn ar lethr gogledd-ddwyreiniol Mynydd Baiden yn gartref i un o straeon serch mwyaf trasig Cymru yn yr 1700au: yr aeres, Ann Thomas, a'r bardd a’r plastrwr lleol, Wil Hopcyn.

Er gwaethaf syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Wil, roedd pwysau ar Ann i briodi cyfreithiwr lleol, Anthony Maddocks Jnr. Er mwyn rhoi diwedd ar berthynas ei wraig â Wil, carcharwyd Ann yn greulon gan Anthony Maddocks Jnr yn islawr y tŷ – gan ei gadael heb unrhyw ddewis arall ond smyglo llythyrau caru at Wil ar ddail sycamorwydden.

Yn anffodus, bu farw Ann o dor calon yn ddim ond 23 oed. Ysgogwyd Wil Hopcyn gan ei marwolaeth i ysgrifennu’r gân serch, Bugeilio'r Gwenith Gwyn, ac mae eu rhamant hefyd wedi’i anfarwoli mewn nofel, ffilm, opera a chofeb restredig — Croes Hopcyn yn Llangynwyd.

Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ar: Hydref 1998

Ffermdy Cefn Ydfa, Pen-y-bont ar Ogwr / Cefn Ydfa Farmhouse, Bridgend

© Frederic Evans, Amgueddfa Cymru, Trwydded Archif Greadigol

 

  1. Cofeb Llewellin, Hwlffordd

Mewn cyferbyniad llwyr ag Ann a Wil, bu John a Martha Llewellin yn llawer mwy lwcus mewn cariad. Yn berchnogion Fferm Scollock West yn Woodstock, Sir Benfro, bu'r cwpl yn byw gyda'i gilydd yn hapus nes iddynt gael eu gwahanu gan farwolaeth Martha yn 1906.

Yn dilyn ei marwolaeth, defnyddiodd cerflunwyr o’r Eidal un o luniau priodas y cwpl i greu cerflun marmor Carrara gwyn, maint bywyd — a godwyd fel rhan o heneb sy’n edrych dros ffermdy’r cwpl.

Yn dilyn marwolaeth John Llewellin yn 1918, crëwyd cerflun ohono yntau i sefyll ochr yn ochr ag un Martha, ac mae’r gŵr a gwraig wedi'u claddu gyda'i gilydd o flaen yr heneb.

Mae'r arysgrif ar yr heneb yn darllen: ‘By the blessing of God on their joint industry and thrift they bought this farm and hand it down without encumbrance to their heirs. Endeavour to pull together as they did. Union is strength.’ 

Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ar: Tachwedd 2000

Cofeb Llewellin, Hwlffordd / Llewellin Monument, Haverfordwest

© Ceridwen / Heneb Llewellin wrth gofeb Scollock West (2), Hwlffordd / CC BY-SA 2.0, trwy Wikimedia Commons

Darganfyddwch fwy gwrandewch ar Santes Dwynwen yn rhannu ei stori

I weld mwy o gatalog trawiadol Cymru o adeiladau rhestredig, archwiliwch Cof Cymru  cofnod Cadw o wybodaeth am asedau hanesyddol Cymru.