Warning Notes – Sioe awyr-agored newydd yn dod i Waith Haearn Blaenafon ym mis Medi
Mae Warning Notes yn cynnig profiad sonig grymus a throchol yn llawn cyffro a synau sy’n newid, ac mae’n dod i Waith Haearn eiconig Blaenafon ar 20 a 21 Medi 2024.
Wrth i’r dydd droi’n nos, cewch ymgolli mewn byd sain hudolus a pherfformiad byw yn yr awyr agored sy’n newid drwy’r amser. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ mecanyddol trawiadol – gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol – mae Warning Notes yn creu seinwedd gyfoethog a phwerus sy’n rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol presennol sy’n atseinio ledled ein byd.
Mae Warning Notes yn sioe newydd gan yr artistiaid Mark Anderson a Liam Walsh, a hwythau’n cydweithio â’r ymarferwyr creadigol dynamig Grug Muse (bardd a pherfformiwr Cymraeg) a Marega Palser (dawnsiwr). Mae’n sioe sy’n fyrfyfyr ac yn ymateb i’r gynulleidfa a’r amgylchedd; mae’n chwareus ac yn hypnotig, gan ein gwahodd i wrando ar y presennol, ac i ystyried straeon personol a byd-eang – a’n dyfodol gyda’n gilydd.
Mae Warning Notes Blaenafon yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r sioe wedi ei chydgomisiynu a’i chydgyflwyno gan Cadw ac OCM.
“Mae cynifer o bethau a ddylai fod yn achosi braw: rhyfel, newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol, sefyllfaoedd personol ac yma mae’n cael llais, galwad glir, o sibrwd i ruo. Ar adegau, mae’n gymysgedd cyfnewidiol o egni a sain, ar adegau eraill mae’n dawelwch myfyriol y mae pob un ohonom yn chwilio amdano o bosibl”
Mark Anderson
“Byd bywiog, bendigedig a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd”
Aelod o’r gynulleidfa
“Mae Anderson wedi treulio ei yrfa broffesiynol yn creu alcemi clyweledol sy’n defnyddio golau, gwres, dirgryniadau, trydan, cemegau osgiladol a pharaffernalia sy’n disgleirio yn ein llygaid ac yn ysgwyd ein dychymyg.”
Richard Wilson
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Warning Notes i Waith Haearn Blaenafon ym mis Medi a gweld sut mae’r artistiaid yn ymateb i Safle Treftadaeth y Byd gwych Cadw.
Bydd y gwaith yn dod â’r safle yn fyw gydag offerynnau hypnotig, mecanyddol, cinetig a cherfluniol a synau, cerddi a symudiadau i gyd-fynd â nhw. Bydd hwn yn brofiad unigryw i’r gynulleidfa ei fwynhau a byddwn yn annog pobl i archebu eu tocynnau’n gyflym i osgoi colli’r cyfle hwn”
Dr Ffion Reynolds, Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau, Cadw
Dyddiadau Gwaith Haearn Blaenafon 2024
Dydd Gwener 20 a dydd Sadwrn 21 Medi – Gwaith Haearn Blaenafon
Amseroedd, tocynnau a gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer y sioeau ar gael yma - Warning Notes | Cadw (llyw.cymru)
Gwyliwch ragflas dwyieithog o Warning Notes yma - https://youtu.be/eN9WbaEryRI?si=pNvYWW-Ja22n17vh
Dysgwch fwy am Warning Notes yma - https://mark-anderson.uk/projects/warning-notes