Ymchwil newydd yn canfod tueddiadau cryf tuag at enwau lleoedd Cymraeg
Mae ymchwil ar sut mae enwau eiddo, strydoedd a busnesau yn newid ledled Cymru yn dangos newid clir tuag at ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.
Casglodd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ystod eang o dystiolaeth werthfawr, gan gynnwys y canlynol:
- Derbyniodd awdurdodau lleol dair gwaith yn fwy o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg nag enwau Saesneg rhwng 2018-2023.
- Nid yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn iaith enw'r eiddo.
- Pan fyddant yn newid iaith, mae eiddo o leiaf dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu hailenwi o'r Saesneg i'r Gymraeg nag o'r Gymraeg i'r Saesneg.
- Ym mhob rhanbarth o Gymru, mae mwy o enwau tai yn cael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg nag o'r Gymraeg i'r Saesneg.
- Mae pobl yn dweud bod enwau tai Cymraeg yn rhoi ymdeimlad o falchder, lle neu hiraeth iddynt.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd yn helpu i adrodd stori pwy ydym ni fel cenedl, ac mae'r gwaith ymchwil newydd hwn yn ein helpu i ddeall ein tirwedd ieithyddol. Rwy'n falch o weld mwy o bobl yn cofleidio enwau eiddo Cymraeg, waeth beth fo'u cefndir."
Canolbwyntiodd yr ymchwil yn bennaf ar enwau eiddo, enwau busnesau ac enwau strydoedd, gan nodi'r angen am ymchwiliad pellach i enwau ar gyfer nodweddion topograffig yn yr amgylchedd naturiol hefyd.
Fel rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg a'n diwylliant, mae wedi sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol i gefnogi'r iaith yn eu cymunedau. Bydd y Llysgenhadon Diwylliannol yn gallu manteisio ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, sy'n cynnwys dros 700,000 o enwau ac sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford: "Rwy'n falch o lansio lefel aur ein cwrs Llysgenhadon Diwylliannol, lle gall pobl ddysgu mwy am yr iaith a'n diwylliant ar-lein. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau ar ystod o bynciau gan gynnwys enwau lleoedd. Os ydych chi eisiau cefnogi'r iaith Gymraeg yn eich ardal chi, neu'n adnabod rhywun a fyddai'n llysgennad delfrydol, ewch amdani."