Castell Caerffili — Canllaw Mynediad
Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: CaerphillyCastle@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle
Mae gorsaf drenau yn daith gerdded/gwthio 10 munud i lawr yr allt i'r castell. Mae'r safle bws agosaf y tu allan i'r castell. Bydd y bws yn stopio yn yr orsaf drenau hefyd: Golwg Google maps
Meysydd parcio
Mae maes parcio arhosiad byr bychan wrth ymyl y ganolfan groeso ar draws y ffordd o'r castell ac mae maes parcio arhosiad hir mwy yng nghefn y castell sy’n daith gerdded/gwthio tua 10 munud o'r fynedfa. Bydd y meysydd parcio hyn yn codi tâl o fis Medi 2022.
Mae'r llwybr i fynedfa'r castell o'r maes parcio yn wastad, mae grisiau ger yr arhosfan bysiau i gyrraedd mynedfa'r castell os nad yw ymwelwyr am gerdded y ffordd bell ar y llwybr.
Mae'r Ganolfan Ymwelwyr o flaen y castell ac mae llwybr gwastad a phalmantog yn arwain ati. Wrth adael y ganolfan ymwelwyr mae llethr fer gymedrol serth a phont bren i fynd i mewn i brif gorff y castell.
Mae toiledau yng nghanol y castell, ac mae mynediad iddynt drwy groesi dros bont sydd â llethr gymedrol serth. Mae ciwbigl hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig. Dŵr ar gael i gŵn.
Mae platfform argae'r gogledd, yr iard a’r neuadd fawr ar lefelau'r llawr gwaelod, tra bod un gris i lefel is y porthdy.
Mae mynediad at weddill y safle drwy risiau troellog cul, gyda'r grisiau o amgylch y safle yn wreiddiol i raddau helaeth, ac felly yn gul ac yn anwastad.
Mae'r llwybr o'r ganolfan ymwelwyr i'r iard yn gymysgedd o arwyneb palmantog ac arwyneb wedi'i baratoi â resin, mae'r llwybr i lwyfan argae'r gogledd yn raean ac yna’n laswelltog.
Mae'r paneli dehongli a gwybodaeth ddigidol ar y llawr gwaelod gan fwyaf.
Taith sain Nac oes
Caffi Nac oes
Diffibriliwr Oes
Powlen i gŵn Oes
Canllawiau print bras Nac oes
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio Oes, wedi'i leoli wrth ymyl y neuadd fawr
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri Oes ar risg y perchennog
Cyfleusterau picnic Oes, mae 10 mainc picnic yn yr iard
Dolenni sain cludadwy Oes
Gorsaf ail-lenwi dŵr Oes, wedi'i leoli wrth ymyl y neuadd fawr