Skip to main content

Castell Rhaglan — Canllaw Mynediad

Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:

Ebost: RaglanCastle@llyw.cymru    Ffôn: 03000 252239

Ymweld â Chastell Rhaglan

Trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle – mae safle bws ym Mhentref Rhaglan sy’n daith gerdded/gwthio 10 munud: Golwg Google maps

Rydych yn croesi ffordd ddeuol brysur a cherdded/gwthio i fyny lôn eithaf serth (heb balmentydd) hyd at y castell. 

Y Fenni yw'r orsaf drên agosaf, sydd tua 9 milltir i ffwrdd.

Mae gan gastell Rhaglan faes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr i’r castell.  Mae ychydig o lethr yn arwain at fynedfa'r ganolfan ymwelwyr. 

Mae drws y fynedfa i'r ganolfan ymwelwyr wedi’i gynorthwyo a gellir ei agor drwy wthio botwm mawr i'r chwith o'r drws. Nid yw'r drws sy'n gadael y ganolfan ymwelwyr i mewn i'r heneb wedi’i gynorthwyo ond mae ar agor fel arfer. Byddai staff yn hapus i agor y drws yma pe bai ar gau.

Toiledau: mae mynedfa’r prif doiledau i lawr tri gris ac ar draws ardal o laswellt  Gyda mynedfeydd ar wahân, mae un ciwbicl gwrywaidd ac wrinal a dau giwbicl benywaidd.   Mae toiled hygyrch ar gael yng nghefn y ganolfan ymwelwyr, dros arwyneb gwastad, ac mae cyfleusterau newid babanod.

Mae ardaloedd mawr o lawntiau a choblau yn y castell.  Mae ychydig o risiau i gael mynediad i rai ardaloedd o lawr gwaelod y castell.

Mae mynediad i ddwy ystafell Porthdy drwy ris bas, fel arfer mae’n bosibl croesi hon gyda bygiau a chadeiriau olwyn.

Mae mynediad i’r Tŵr Mawr drwy risiau cerrig, ar draws pont bren ac yna mae grisiau cerrig troellog mawr yr holl ffordd i'r brig lle mae ein baneri’n cael eu harddangos.  Mae mynediad i dŵr byrrach arall drwy'r grisiau mawreddog. 

Mae meinciau wedi'u lleoli o gwmpas y rhan fwyaf o'r safle a byrddau picnic a meinciau wedi'u lleoli ar y lawnt fowlio.

Wrth adael, mae mynediad i’r ganolfan ymwelwyr drwy ddrws nad yw'n defnyddio cymorth pŵer ond sydd ond ar gau yn ystod tywydd garw. 

Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad yw’n gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig.

Cynllun Llawr — Castell Rhaglan

Taith sain   
Caffi
Diffibriliwr
Powlen i gŵn                                                   
Canllawiau print bras
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio 
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri 
Cyfleusterau picnic 
Dolenni sain cludadwy
Gorsaf ail-lenwi dŵr
Nac oes
Nac oes
Oes
Oes
Nac oes
Nac oes
Wrth ochr y ganolfan ymwelwyr
Oes
Oes
Oes