Mae Tocyn Henebion Cadw yn rhoi mynediad diderfyn i bob un o henebion Cadw gan ddechrau o £10.00 y person.
Gyda Thocyn Henebion Cadw gallwch ymweld â’ch hoff safle mor aml ag y dymunwch dros gyfnod o dair blynedd, ac mae ar gael i unrhyw un sy’n 5 oed ac yn hŷn.
Gallwch brynu Tocyn Henebion Cadw yn unrhyw un o’r safleoedd Cadw canlynol:
Castell Biwmares, Castell Caernarfon, Castell Caerffili, Castell Coch, Castell Cas-Gwent, Castell Cilgerran, Castell Conwy, Castell Cricieth, Castell Dinbych, Castell Harlech, Castell Cydweli, Castell Talacharn, Castell Oxwich, Gwaith Haearn Blaenafon, Caer a Baddonau Caerllion, Tŷ Trefol Elisabethaidd Plas Mawr, Castell Rhaglan, Castell Rhuddlan, Capel y Rug, Abaty Ystrad Fflur, Palas yr Esgob Tŷddewi, Abaty Tyndyrn, Llys a Chastell Tre-tŵr ac Abaty Glyn y Groes.
Nid yw safleoedd am ddim na safleoedd sy’n cael eu rheoli ar y cyd yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i Castell Carreg Cennen, Castell Dolwyddelan, Amgueddfa Cerrig Margam a Chastell Weble.
Gall pobl sydd â Thocyn Preswylwyr Lleol ar hyn o bryd gyfnewid eu cerdyn am Docyn yn unrhyw un o safleoedd Cadw sy’n rhan o’r cynllun.
Dim ond Tocyn ar gyfer UN o Henebion Cadw sydd â thâl mynediad y gall un deilydd ei gael. Os nad ydych yn cydymffurfio â’r rheol hon, bydd pob Tocyn ar ôl yr un cyntaf yn cael ei ddiddymu.
Dim ond gyda cherdyn llun y caiff deilydd y Tocyn fynediad. Mae hawl gan Cadw i wrthod mynediad os penderfynir nad yw’r Tocyn yn berchen i’r sawl sy’n ei ddangos.
Nid yw’r cynllun yn ddilys o’i gyfuno ag unrhyw gynllun arall.
Nid yw cardiau’n ddilys ar ddiwrnodau digwyddiadau.
Mae’r Tocynnau ar gael i bawb sy’n 5 oed neu’n hŷn (caiff plant fynediad am ddim i safleoedd Cadw tan eu bod nhw’n 5 mlwydd oed).
Nid oes gwerth ariannol i’r cerdyn, ni ellir ei ailwerthu, ei arwerthu na’i gyfnewid ac ni ellir ei gyfnewid am arian yn rhannol nac yn llwyr.
Mae hawl gan Cadw i ddiddymu’r cynllun unrhyw bryd mae’n penderfynu sy’n addas yn ôl amgylchiadau sydd tu hwnt i’w reolaeth resymol.
Caiff y data personol a gasglwn ei brosesu i weinyddu eich tanysgrifiad i e-gylchlythyr Cadw a ddanfonir atoch chi gan blatfform GovDelivery. Ni fydd Cadw’n ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall. Cedwir eich data am hyd eich tanysgrifiad i’r cylchlythyr, ac os penderfynwch ganslo’ch tanysgrifiad, ni fydd ein systemau na’r systemau a ddefnyddir gan GovDelivery yn cadw eich cyfeiriad e-bost na’ch gwybodaeth.
Tocyn Henebion Cadw — Telerau ac Amodau