Cynllun Grant Adfywio Adeiladau Rhestredig
Mae'r Cynllun Grant Adfywio Adeiladau Rhestredig yn cefnogi atgyweirio a chadwraeth adeiladau rhestredig yng Nghymru a’u hailddefnyddio’n gynaliadwy. Nod y cynllun yw diogelu asedau treftadaeth gan gyfrannu at adfywio lleol a budd cymunedol hefyd.
Gall y Cynllun Grant Adfywio Adeiladau Rhestredig ariannu 50% o'r gwaith cymwys (hyd at uchafswm o £250,000) a'i nod yw buddsoddi cyfalaf hanfodol mewn treftadaeth sydd mewn perygl i helpu perchnogion a cheidwaid i ddiogelu adeiladau rhestredig sydd mewn perygl ac annog adfer a/neu ailddefnyddio Adeiladau Rhestredig.
Bydd y cynllun yn gweithredu proses ymgeisio dau gam:
Cam 1: Gwahoddiad i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb
Cam 2: Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus lunio a chyflwyno cais llawn
Rhaid i geisiadau’r ail gam fod yn gyson â'r cynigion a amlinellir yn y Datganiad o Ddiddordeb llwyddiannus.
Bydd Camau 1 a 2 yn gystadleuol ac nid yw Datganiad o Ddiddordeb llwyddiannus yn sicrhau cyllid yng Ngham 2.
Mae'r amserlen ar gyfer y cynllun grant fel a ganlyn:
Cam 1 Cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb erbyn: 10 Rhagfyr 2025
Cam 2 Cyhoeddi penderfyniadau ar Ddatganiadau o Ddiddordeb erbyn: 16 Ionawr 2026
Darllenwch ein gwybodaeth bellach a'n canllawiau ar wneud cais i Gynllun Grant Adfywio Adeiladau Rhestredig Cadw gan lenwi'r ffurflen gais Datganiad o Ddiddordeb.