Hysbysu Gweinidogion Cymru
Os yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi cydsyniad adeilad rhestredig mae’n rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru, drwy Cadw, yn gyntaf.
Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu a ydynt am alw’r cais i mewn er mwyn iddynt benderfynu arno eu hunain neu ganiatáu i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu ar y cais ei hun. Os bydd yr awdurdod cynllunio’n penderfynu gwrthod rhoi cydsyniad, gall wneud hynny heb hysbysu Gweinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus i weld penderfyniadau ynghylch cydsyniad adeilad rhestredig yn cael eu gwneud yn lleol. Gallant gyfarwyddo nad yw’r broses hysbysu — Adran 13 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 — yn berthnasol i rai categorïau penodol o geisiadau. Maent wedi cyfarwyddo na fydd angen i awdurdodau cynllunio lleol hysbysu Gweinidogion Cymru os ydynt yn bwriadu rhoi caniatâd ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar y tu mewn i adeilad rhestredig gradd II (heb seren).
Gall Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo, ar yr amod bod yr awdurdod cynllunio lleol yn cael caniatâd ysgrifenedig Cadw, na fydd Adran 13 yn gymwys i unrhyw gais am waith ar adeilad gradd II (heb seren) heblaw am ddymchwel. Fodd bynnag, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol gael cyngor swyddog cadwraeth adeiladau arbenigol a enwir ar bob cais o'r fath.
Mae'r awdurdodau cynllunio lleol canlynol wedi'u hawdurdodi i roi caniatâd ar gyfer gwaith i adeiladau rhestredig gradd II (heb seren) heb hysbysu Gweinidogion Cymru:
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent — gweinyddir gan Gyngor Sir Fynwy
- Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen — gweinyddir gan Gyngor Sir Fynwy
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Sir Fynwy — ynghyd â gradd II*
- Cyngor Sir Gâr
- Cyngor Sir Penfro
Am fwy o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol 5.18–5.21.