Mae llawr o resymau da dros ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar adeiladau.
Gall eich helpu i:
Beth yw cynnal a chadw?
Yn y bôn, mae cynnal a chadw yn golygu cynnal archwiliadau rheolaidd i archwilio cyflwr eich adeilad a'i amgylchoedd, a gwneud gwaith atgyweirio amserol os caiff namau eu canfod. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gynnal archwiliadau neu wneud gwaith atgyweirio syml. Os bydd problemau mwy difrifol yn codi neu os bydd adeilad yn fawr neu'n arbennig o gymhleth, efallai yr hoffech ymgynghori â syrfëwr neu bensaer cymwys.
Ni fydd angen cael caniatâd ar gyfer gwaith cynnal a chadw syml fel arfer os yw eich adeilad yn rhestredig, ond os bydd angen gwneud gwaith atgyweirio mwy sylweddol, dylech gadarnhau hynny'n gyntaf â swyddog cadwraeth eich awdurdod cynllunio lleol.