Skip to main content

Deall ardaloedd cadwraeth

Mae ardaloedd cadwraeth yn rhannau unigryw o’r amgylchedd hanesyddol a ddynodir gan awdurdodau cynllunio lleol oherwydd eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae mwy na 500 o ardaloedd cadwraeth yng Nghymru ac maent yn cael eu gwerthfawrogi yn lleoedd arbennig gan y rheiny sy’n byw ac yn gweithio ynddynt.

Mae ardaloedd cadwraeth yn llawn tystiolaeth ffisegol o’r gorffennol. Mae eu diddordeb arbennig i’w weld yn nodweddion yr ardal, nid mewn adeiladau unigol. Gallai hyn fod yn batrwm aneddiadau, y modd y mae gofod a lleiniau adeiladu wedi cael eu trefnu, a’r rhwydweithiau llwybrau, yn ogystal ag arddull a math yr adeiladau, eu deunyddiau a’r manylion sydd arnynt.

Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol rheoli newid yn ofalus mewn ardaloedd cadwraeth er mwyn sicrhau bod eu cymeriad a’u golwg yn cael eu diogelu a’u gwella. Er mwyn cyflawni hyn, mae rheolaethau arbennig ynghylch dymchwel adeiladau a thorri, brigdorri a thocio coed.

Weithiau, mae rheolaethau cynllunio ychwanegol i ddiogelu’r elfennau hanesyddol a phensaernïol sy’n gwneud yr ardal yn arbennig. Gelwir y rheolaethau arbennig hyn yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4. Mae pob awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu arnynt, gan ddibynnu ar ba elfen benodol o’r ardal gadwraeth y maent am ei diogelu. Maent yn fwyaf tebygol o effeithio ar berchenogion sydd am wneud newidiadau i du allan eu hadeilad. Gall y rhain gynnwys gosod cladin, gosod drysau neu ffenestri newydd, a gosod soseri lloeren a phaneli solar.

Ni fwriedir i’r rheolaethau hyn rwystro newid; yn hytrach, maent yn annog datblygiadau sy’n gydnaws â’r ardal neu sy’n gwella ei nodweddion arbennig. Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, bydd eich awdurdod cynllunio lleol yn gallu dweud wrthych a oes rheolaethau arbennig ar waith ac esbonio pa ganiatâd sydd ei angen.

Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio lleol yn paratoi arfarniadau a chynlluniau rheoli ardaloedd cadwraeth. Mae’r rhain yn cynnig darlun manwl o’r hyn sy’n gwneud ardal yn arbennig a gellir eu defnyddio yn sail ar gyfer rheoli cadarnhaol a gwella.  Maent yn fan cychwyn da i berchenogion a meddianwyr ddod i wybod mwy am y man lle maent yn byw neu’n gweithio.

Mae dogfen Cadw, Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru, yn esbonio mwy am rôl a chyfrifoldebau awdurdodau cynllunio lleol o ran dynodi, arfarnu a rheoli ardaloedd cadwraeth yng Nghymru.