Rheoli ardaloedd cadwraeth
Mae awdurdodau cynllunio lleol yn dynodi ardaloedd cadwraeth oherwydd eu bod o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.
Mae dynodi yn darparu sail ar gyfer polisïau sydd wedi’u cynllunio i wella yn ogystal â diogelu’r holl elfennau hynny o gymeriad neu olwg ardal sy’n cyfrannu at y ffaith ei bod o ddiddordeb arbennig.
Mae arfarniad o ardal gadwraeth yn sylfaen ar gyfer rheoli cadarnhaol. Mae’n cynnig darlun manwl o’r hyn sy’n gwneud ardal yn arbennig a gellir ei ddefnyddio i nodi cyfleoedd a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Mae’r arfarniad yn cynnig dealltwriaeth a rennir o gymeriad a phwysigrwydd, ac yn tynnu sylw at broblemau a photensial y gellir eu defnyddio yn sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllun rheoli manylach wedi’i ategu gan fframwaith cadarn o ran polisi lleol.
Y dull gweithredu gorau yw bod yr awdurdod lleol yn mabwysiadu’r arfarniad, ynghyd â’r cynllun rheoli, yn ganllawiau cynllunio atodol i fod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio.
Mae gan ardaloedd cadwraeth nifer o randdeiliaid, felly mae’n bwysig bod yr awdurdod cynllunio lleol yn rhoi gwybod i berchenogion eiddo, trigolion a busnesau lleol am bolisïau penodol ac yn esbonio pam mae ardal wedi’i dynodi, sut y gallant helpu i ddiogelu ei chymeriad a’i golwg, a pha reolaethau ychwanegol a chyfleoedd am gymorth all ddod yn sgil ei dynodi.
Hefyd, dylai’r awdurdod cynllunio lleol fonitro, adolygu a gwerthuso’n rheolaidd effaith dynodi a llwyddiant strategaethau rheoli o ran diogelu neu wella cymeriad neu olwg ardaloedd cadwraeth.
Mae’r ddogfen Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru yn amlinellu’r cyd-destun polisi o ran dynodi a rheoli ardaloedd cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cynllunio lleol. Hefyd, mae’n nodi prif elfennau arfer gorau o ran eu dynodi a’u harfarnu, gan gynnwys sicrhau cyfranogiad rhanddeiliaid a datblygu polisïau lleol ynghylch rheoli cadarnhaol a gwella fel bod eu cymeriad a’u golwg yn cael eu diogelu a’u gwella.
Mae’r canllaw arfer gorau hwn wedi’i anelu’n bennaf at awdurdodau cynllunio lleol i sicrhau dull gweithredu cyson o ran dynodi, arfarnu a rheoli ardaloedd cadwraeth ledled Cymru. Hefyd, bydd o ddiddordeb i berchenogion eiddo a rhanddeiliaid eraill sydd am wybod rhagor am ardaloedd cadwraeth presennol neu rai arfaethedig a sut y gall rheoli cadarnhaol alluogi newid sy’n diogelu neu’n gwella cymeriad neu olwg.
Mae Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru yn atodiad i Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.