Meysydd brwydrau hanesyddol Cymru
Mae brwydrau hanesyddol yn aml yn ddigwyddiadau eiconig sy’n gallu ennyn teimladau cryf ac angerddol hyd heddiw. Bydd enwogrwydd arweinwyr gwleidyddol a milwrol yn aml yn deillio o’u llwyddiant ar faes y gad. Gall y lleoliadau lle cynhaliwyd brwydrau fod yn asedau hanesyddol arwyddocaol. Bydd tystiolaeth dopograffaidd ac archeolegol yn bresennol ynddynt yn aml, a gall hynny gyfoethogi’n dealltwriaeth o’r digwyddiadau tyngedfennol hynny.
Yn sgil ymgynghoriadau cyhoeddus, cafwyd cefnogaeth gref gan y cyhoedd dros gydnabod pwysigrwydd y digwyddiadau tyngedfennol hyn trwy greu cofnod cynhwysfawr o feysydd brwydrau hanesyddol yng Nghymru. Felly gofynnodd Cadw i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru greu rhestr o’r meysydd brwydro hanesyddol yng Nghymru.
Wrth baratoi’r rhestr, ymchwiliwyd yn eang i ddogfennau a chynhaliwyd arolwg maes o nifer gyfyngedig o safleoedd sydd yn ôl traddodiad wedi’u cysylltu â brwydrau arwyddocaol. O ganlyniad, mae’r rhestr wedi mabwysiadu’r diffiniad canlynol o faes brwydr:
Ardal neu leoliad ar dir neu ar fôr lle cafwyd gwrthdaro oedd yn cynnwys lluoedd arfog. Dylid ystyried pob agwedd ar orffennol Cymru wrth nodi safleoedd brwydrau hanesyddol a gallent gynnwys brwydrau traddodiadol, gwarchaeau, goresgyniadau, sgarmesoedd, cudd-ymosodiadau, cyflafanau a safleoedd aflonyddwch sifil.
Mae dros 700 o feysydd brwydr wedi'u nodi, gan amrywio o frwydrau yn y cyfnod Rhufeinig i safleoedd terfysg sifil yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd y rhestr yn cael ei diwygio a gwybodaeth newydd yn cael ei hychwanegu ati pan ddaw i’r fei.
Wedi’i bwriadu ar gyfer cynulleidfa eang, yn cynnwys penderfynwyr, grwpiau â buddiant ac ymchwilwyr unigol, mae’r rhestr yn ddeongliadol, yn addysgol ac yn adnodd ymchwil, a fydd yn cynyddu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth ac yn ysgogi ymchwil pellach i feysydd brwydrau a safleoedd helynt hanesyddol eraill yng Nghymru.
Mae'r rhestr yn dangos pwysigrwydd meysydd brwydrau fel elfennau arwyddocaol o amgylchedd hanesyddol Cymru. Rhaid i fanylion pob maes brwydr sydd wedi'i roi ar y rhestr gael eu nodi yng nghofnodion amgylchedd hanesyddol statudol pob awdurdod lleol. Mae'r cofnodion cyhoeddus hyn yn rhoi'r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd eu hangen ar awdurdodau cynllunio lleol a rheolwyr tir eraill i allu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.