Skip to main content

Arysgrifwyd yn 2009

Dechreuwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1795 i gario camlas fordwyol ar draws Dyffryn Dyfrdwy yng ngogledd Cymru, ac mae'n dal i weithredu 200 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Hon yw campwaith cyntaf y peiriannydd sifil Thomas Telford (1757–1834) a bu'n sail i'w enw da rhyngwladol rhagorol.

Mae'n enghraifft ysblennydd o beirianwaith camlesi diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gampwaith pensaernïol mewn tirwedd ddramatig. Mae ei 19 o fwâu haearn bwrw yn cario'r ddyfrffordd 126 troedfedd / 38.4 metr uwchben yr afon, ac am ddwy ganrif hon oedd y ddyfrbont fordwyol dalaf yn y byd.

Mae'n enghraifft o'r gwelliannau mewn trafnidiaeth a gafwyd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, a ddechreuodd y broses ddiwydiannu a ledaenodd i Ewrop. Mae'r safle Treftadaeth y Byd yn cynnwys y gamlas, a'i nodweddion peirianwaith; gweddillion sy'n gysylltiedig â'r gwaith o'i hadeiladu a'i gweithrediad hanesyddol, megis tai peirianwyr, glanfeydd a bythynnod fforddolwyr; a'r ardal o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Rhaeadr Bwlch yr Oernant a Thraphont Ddŵr y Waun.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte ar wefan UNESCO, yn cynnwys y datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol.

Safle Treftadaeth y Byd Pont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)