Skip to main content

Henebion Cofrestredig

Caniatâd heneb gofrestredig

Yn y canllaw hwn

1. Beth yw cydsyniad heneb gofrestredig?

Mae’n drosedd gwneud unrhyw waith allai amharu ar heneb gofrestredig neu ar y tir o fewn heneb gofrestredig heb gael cydsyniad heneb gofrestredig.

Prif ddiben cofrestru yw diogelu a gwarchod henebion cofrestredig. Ystyr hyn yw bod yna ragdybiaeth yn erbyn caniatáu unrhyw waith a fyddai’n difrodi heneb gofrestredig. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o geisiadau ar gyfer gwaith rheoli cadarnhaol.

Pryd mae angen caniatâd?

Mae angen caniatâd i heneb gofrestredig ar gyfer pob math o waith, gan gynnwys :

• unrhyw beth all arwain at ddymchwel, dinistrio neu ddifrodi unrhyw ran o heneb gofrestredig

• gwaith i gael gwared ar heneb gofrestredig

• gwaith i atgyweirio heneb gofrestredig

• newidiadau i heneb gofrestredig

• gwaith i osod arwyddion, gan gynnwys paneli gwybodaeth

• defnyddio synhwyrydd metel

• gwaith draenio / atal llifogydd

• gwaith tipio

• plannu coed

• gwaith coedwigaeth

• codi ffensys

• atgyweirio draeniau

• gwaith cloddio archaeolegol

• codi datblygiad ar heneb gofrestredig.

• aredig yr isbridd.

Bydd angen cydsyniad hyd yn oed os mai dim ond rhan fach o safle’r heneb yr effeithir arni.  Gellir cynhyrchu map yn dangos holl ardal yr heneb gofrestredig gan ddefnyddio Cof Cymru.

Mae’n hawdd difrodi heneb yn anfwriadol, felly os nad ydych yn siŵr a oes angen cydsyniad i wneud unrhyw waith, holwch Cadw am gyngor - henebionCofrestredig@llyw.cymru

2. Cyngor cyn gwneud cais am gydsyniad

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted ag y medrwch cyn cyflwyno unrhyw gais er mwyn inni allu trafod yr hyn rydych am ei wneud, eich cynghori ynghylch sut orau i’w wneud, a pha broses ymgeisio y dylech ei defnyddio.  Byddwn yn eich cynghori hefyd ynglŷn â faint o fanylion sydd eu hangen ar y cais i osgoi unrhyw oedi diangen.

Gan ddibynnu ar faint ac effaith y gwaith rydych am ei wneud, efallai y bydd angen cyflwyno datganiad o’r effaith ar dreftadaeth gyda’ch cais. Dylai hwnnw gynnwys datganiad arwyddocâd ac esboniad o effaith y gwaith ar yr arwyddocâd hwnnw a pham mae angen y gwaith. Cewch fwy o wybodaeth am asesiadau o’r effaith ar dreftadaeth a datganiadau arwyddocâd oddi wrth Cadw ac yn Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru. link

Efallai y dylech fynd at arbenigwr am gyngor proffesiynol i’ch helpu i lunio cynigion addas ac i’ch helpu â’ch cais.

Os ydych am ofyn am gydsyniad cynllunio ar gyfer cynnig sy’n effeithio ar heneb gofrestredig neu ar ei lleoliad, byddai’n syniad da ichi ofyn i Cadw a’ch awdurdod cynllunio lleol a’r ymddiriedolaeth archaeolegol ranbarthol am gyngor cyn gwneud cais.

3. Sut i wneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig

Er mwyn cael caniatâd heneb gofrestredig, bydd angen i chi cwblhau a chyflwyno ein ffurflen gais ar-lein, gan gynnwys digon o wybodaeth i ddangos eich bod wedi deall ac ystyried arwyddocâd yr heneb wrth gynllunio eich rhaglen o waith a sut y bydd yn effeithio ar yr heneb gofrestredig.

Dylai lefel yr wybodaeth gyfateb i faint y gwaith a’i effaith ar arwyddocâd yr heneb.

Dylai o leiaf gynnwys:

  • plan a lluniadau yn dangos cyflwr yr heneb, y gwaith rydych yn ei gynnig a ble
  • ffotograffau’n dangos cyflwr yr heneb
  • esboniad ysgrifenedig o’ch cynnig, sut y bydd yn effeithio ar yr heneb a beth rydych am ei wneud i ddiogelu, cadw neu wella arwyddocâd yr heneb
  • tystysgrif i brofi ei bod yn eiddo ichi.

Ar gyfer gwaith mawr, gofynnir ichi baratoi asesiad o’r effaith ar dreftadaeth a chyflwyno datganiad o’r effaith ar dreftadaeth gyda’ch cais. Dyma’r wybodaeth fydd yn sail i’r asesiad os bydd ei angen.

Caiff unrhyw un ofyn am gydsyniad heneb gofrestredig ond os bydd Cadw yn cael cais gan unrhyw un heblaw am y perchennog, bydd angen cadarnhad bod y perchennog wedi rhoi ei ganiatâd.

Bydd y broses ganiatáu lawn yn cymryd hyd at 8 wythnos, ond gall ceisiadau mwy cymhleth gymryd hyd at 13 wythnos, yn enwedig os gofynnir barn arbenigwyr neu bartïon eraill sydd â diddordeb.

Ffurflen Gais

Os ydych chi'n cael trafferth gweld y ffurflen ar-lein, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio henebionCofrestredig@llyw.cymru

Os ydych yn cynnal cloddiad archaeolegol, bydd angen i chi hefyd gwbwlhau y ffurflen isod a’i hanfon i henebionCofrestredig@llyw.cymru

4. Y broses gydsynio syml

Os yw’r gwaith rydych yn ei gynnig yn cael effaith bositif neu niwtral ar yr heneb gofrestredig, caiff Cadw ddefnyddio’r broses gydsynio syml sy’n golygu na fydd angen ichi gyflwyno cais ffurfiol. Gall y broses hon fod yn addas ar gyfer llenwi effaith erydu wrth fôn maen hir, rhoi darn byr o ffens newydd, ailosod cerrig rhydd ar ben wal neu osod plac neu arwydd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Cadw yn cytuno ar y gwaith mewn trafodaeth â chi mewn cyfarfod ar y safle. Bydd Cadw wedyn yn paratoi hysbysiad cydsynio fydd yn nodi hyd a lled a lleoliad y gwaith ac unrhyw amodau. O dderbyn yr hysbysiad, gallwch ddechrau ar y gwaith.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni am gyngor cyn gwneud cais.

5. Cydsyniadau dosbarth

Ceir rhai gweithgareddau sy’n effeithio ar henebion cofrestredig nad ydynt fel arfer yn eu difrodi a gellir eu cynnal heb orfod gofyn am gydsyniad heneb gofrestredig. Rhoddir cydsyniad ar gyfer y gweithgareddau hyn yn awtomatig o dan yr hyn a elwir yn gydsyniad dosbarth.

Mae cydsyniadau dosbarth yn cynnwys parhau â gweithgareddau amaethyddol neu arddwrol presennol. Er enghraifft, os cafodd y safle ei aredig yn y chwe blynedd ddiwethaf, ni fydd angen cydsyniad heneb gofrestredig fel arfer i barhau i aredig, cyn belled nad ydych yn aredig yn ddyfnach na’r tro diwethaf. Fodd bynnag, bydd angen cydsyniad heneb gofrestredig i aredig yn ddwfn neu i droi’r isbridd.

Cydsyniad dosbarth sydd ei angen i wneud gwaith brys er lles iechyd a diogelwch, ond dim ond i gynnal y mesurau lleiaf sydd eu hangen ar unwaith rhag i rywun gael ei anafu. Gallai gynnwys tynnu meini sy’n rhydd neu sy’n hongian wedi i gerbyd daro pont neu adeilad, lle nad oes modd defnyddio mesurau eraill fel gwahardd y cyhoedd. Ym mhob achos o’r fath, dylech storio’r deunydd neu’r rhan o adeiladwaith yr adeilad mewn lle diogel a rhoi gwybod i Cadw am y digwyddiad cyn gynted ag y medrwch er mwyn ichi allu cytuno faint o waith sydd angen ei wneud ar frys. Efallai y bydd Cadw hefyd yn trefnu i arolygydd henebion cofrestredig ymweld â’r safle. Peidiwch â defnyddio cydsyniad dosbarth yn lle gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig i wneud gwaith iechyd a diogelwch sydd wedi’i gynllunio.

Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u cynnwys dan gydsyniadau dosbarth wedi’u rhestru yn Atodiad 1 ein canllawiau Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru. 

Os ydych am wneud unrhyw waith a allai, yn eich barn chi, fod yn waith sy’n dod o dan gydsyniad dosbarth, gofynnwch i Cadw am gyngor cyn dechrau’r gwaith. Mae’n drosedd gwneud gwaith nad yw’n dod o dan gydsyniad dosbarth heb gael cydsyniad heneb gofrestredig.

6. Cydsyniad heneb gofrestredig a chaniatâd cynllunio

Os oes angen caniatâd cynllunio ar y gwaith rydych am ei wneud ar heneb gofrestredig, bydd angen ichi gael caniatâd cynllunio (oddi wrth eich awdurdod cynllunio lleol) a chydsyniad heneb gofrestredig (oddi wrth Cadw). Nid yw caniatâd cynllunio ar ei ben ei hun yn ddigon i awdurdodi’r gwaith. Bydd gofyn cyflwyno’r un lefel o wybodaeth wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ag sydd ei hangen wrth wneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig. Byddai’n well cyflwyno’r ddau gais yr un pryd.

Yn ôl y canllawiau cynllunio, bydd rhagdybiaeth o blaid diogelu olion archaeolegol ffisegol o bwys cenedlaethol yn eu lle. Dywedir hefyd y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried lleoliad yr heneb gofrestredig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Os bydd cais cynllunio yn cael effaith uniongyrchol ar heneb gofrestredig neu ar ei lleoliad, yna rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol holi Cadw. Ni chaiff caniatâd cynllunio ei roi (heblaw o dan amgylchiadau eithriadol) os caiff datblygiad effaith negyddol ar heneb gofrestredig neu effaith andwyol arwyddocaol ar ei lleoliad.

Pan fo cais cynllunio yn effeithio’n uniongyrchol ar heneb gofrestredig neu ei lleoliad yna mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â Cadw.

Os yw adeilad neu heneb wedi’i rhestru a’i chofrestru, bydd angen cael cydsyniad heneb gofrestredig oddi wrth Cadw yn hytrach na chydsyniad adeilad rhestredig.

7. Sut mae ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig yn cael eu hasesu

Cadw fydd yn asesu’r holl geisiadau, hynny ar ran Gweinidogion Cymru. Bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth y byddwch wedi’i chyflwyno ac ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod am yr heneb gofrestredig. Efallai y bydd ein harolygwyr henebion yn ymweld â’r safle i asesu effaith eich cynigion; os felly, fe fyddan nhw’n cysylltu â chi i drefnu apwyntiad. Os nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth inni allu gwneud asesiad, fe fyddan nhw’n gofyn am fwy o wybodaeth.

Wrth asesu ceisiadau am gydsyniad, ceir rhagdybiaeth o blaid diogelu’r heneb gofrestredig ffisegol. Mae hynny’n golygu bod rhagdybiaeth yn erbyn cynigion fydd yn newid neu’n difrodi neu a fydd yn cael effaith arwyddocaol ar leoliad yr olion.

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried pob sylw wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad heneb gofrestredig neu beidio. Byddwn yn gyntaf yn rhoi llythyr penderfyniad interim ichi, fydd yn cynnwys unrhyw amodau ar gyfer rhoi cydsyniad neu’r rhesymau dros wrthod eich cais. Gallech roi mwy o wybodaeth fel ymateb i’r llythyr interim.

Gallem benderfynu cyfeirio’r achos at arolygydd annibynnol yn yr Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn gallu cynghori ar deilyngdod y cais pan nad oes cytundeb.  Byddem wedyn yn penderfynu ar y cais ar ran Gweinidogion Cymru gan ystyried adroddiad yr arolygydd cynllunio. Yn ymarferol, prin iawn fod angen y broses hon gan fod y rhan fwyaf o anghytundebau ynghylch amodau’r cydsyniad yn cael eu setlo’n anffurfiol trwy drafod yn uniongyrchol â ni.