Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
Daeth Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a’i chyfres o is-ddeddfwriaeth ategol i rym yn llawn ar 4 Tachwedd 2024.
Dyma’r ddeddfwriaeth gydgrynhoi gyntaf yn rhaglen bum mlynedd ddechreuol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae’r darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth yn darparu cyfraith gwbl ddwyieithog, drefnus a hygyrch ar gyfer diogelu a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw yn effeithiol fel y gall barhau i gyfrannu at lesiant Cymru a’i phobl.
Gyda cychwyn llawn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023,, nid yw’r Deddfau a ddarparodd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru am ddegawdau — yn bennaf Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 — yn gymwys yng Nghymru bellach. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddod o hyd i’r gyfraith, ei deall a’i rhoi ar waith, ond ni fydd yn gwneud unrhyw newidiadau i reolaeth a diogelwch presennol amgylchedd hanesyddol Cymru.
Mae testun llawn Deddf 2023 ar gael ar wefan y Senedd ac ar legislation.gov.uk.
Hefyd ar gael ar legislation.gov.uk mae’r dogfennau ategol a fydd yn eich helpu i ddeall yn well y ddeddfwriaeth a’r ffordd y cafodd ei drafftio:
- Nodiadau esboniadol — sylwebaeth benodol ar ddarpariaethau y dylid eu darllen ar y cyd â’r Ddeddf
- Nodiadau’r drafftwyr — sylwadau ar benderfyniadau a wnaed wrth ddrafftio’r Ddeddf
- Tabl tarddiad — ffynhonnell ddeddfwriaethol y darpariaethau yn y Ddeddf
- Tabl cyrchfannau — lleoliad darpariaethau yn y ddeddfwriaeth bresennol yn y Ddeddf.