Skip to main content

Prosiect cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru i ddod â threfn ac eglurder i gyfraith Cymru.

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn rhoi cyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog i bobl Cymru ar gyfer diogelu a rheoli’n hamgylchedd hanesyddol unigryw a gwerthfawr.

Dilynwch ein llinell amser o ddechreuadau'r prosiect cydgrynhoi i'r datblygiadau diweddaraf…

Archwilio'r Ddeddf

10 Mawrth 2023

Adroddiadau pwyllgor ar Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Ar ôl Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor a gwelliannau i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn argymell bod y Bil yn symud ymlaen i'r Cyfnod Terfynol.

Bil yn symud i bleidlais yn y Senedd

8 Mawrth 2023

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) diwygiedig ar-lein

Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) sy'n adlewyrchu'r gwelliannau a wnaed yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor bellach ar gael ar dudalen y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Y fersiwn ddiweddaraf o'r Bil

1 Mawrth 2023

Y Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i gynlluniau i adolygu deddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol morol

Mewn llythyr at y Pwyllgor, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn esbonio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu tystiolaeth ac adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol morol.

Y Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i gais y Pwyllgor am ragor o wybodaeth

25 Ionawr 2023

Y Cwnsler Cyffredinol yn esbonio'r gwelliannau i'r Bil

Wrth ysgrifennu at holl Aelodau'r Senedd, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn darparu tabl pwrpas ac effaith ac eglurhad o'r gwelliannau arfaethedig yn eu cyd-destun.

Dogfennau ategol ar gyfer gwelliannau'r llywodraeth

24 Ionawr 2023

Y llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil

Y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno pedwar deg pump o welliannau i fireinio Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Newidiadau i symleiddio ac egluro'r Bil

18 Ionawr 2023

Y Cwnsler Cyffredinol yn ysgrifennu mewn ymateb i gwestiynau a godwyd mewn dadl

Y Cwnsler Cyffredinol yn mynd i’r afael â chwestiynau a godwyd yn nadl y Senedd ar gynnydd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Ardaloedd archaeolegol, cyngor a deddfwriaeth ddwyieithog

18 Ionawr 2023

Y Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor

Y Cwnsler Cyffredinol yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr holl argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ystyriaeth gychwynnol y Bil.

Atebion ar faterion cydgrynhoi a'r Bil

17 Ionawr 2023

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn mynd rhagddo ar ôl dadl Senedd Cymru

Cytunodd Senedd Cymru yn unfrydol y dylai Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil cydgrynhoi i’w ystyried yn fanwl gan bwyllgor.

Bil yn parhau ar ei daith drwy gamau craffu’r Senedd

12 Ionawr 2023

Y Cwnsler Cyffredinol yn darparu eglurhad i’r Pwyllgor

Gan ymateb i argymhelliad yn yr adroddiad ar y Bil, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn esbonio’r dull a ddefnyddiwyd yn adran 2(3) i sicrhau cydgrynhoi boddhaol.

Cydgrynhoi, hawliau dynol a Rheolau Sefydlog

23 Rhagfyr 2022

Pwyllgor yn adrodd ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Ar ôl craffu’n ofalus, mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn argymell y dylai Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo.

14 argymhelliad mewn adroddiad manwl

14 Tachwedd 2022

Y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi tystiolaeth bellach i’r Pwyllgor

Y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, yn ateb cwestiynau ar dros 30 maes o’r Bil gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Cwestiynau manwl ar y ddeddfwriaeth

28 Hydref 2022

Cwnsler Cyffredinol yn nodi'r safbwynt ar dreftadaeth forol

Yn ei ateb i'r Pwyllgor, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol morol yng nghyd-destun cydgrynhoi.

Cyfraith yr amgylchedd hanesyddol morol a chydgrynhoi

7 Hydref 2022

Pwyllgor yn holi am yr amgylchedd hanesyddol morol

Wedi'i ysgogi gan dystiolaeth rhanddeiliaid, mae'r Pwyllgor yn gofyn am farn y Cwnsler Cyffredinol am 'eithrio'r amgylchedd morol o'r Bil’.

Treftadaeth danfor yn y Bil?

3 Hydref 2022

Rhanddeiliaid yr amgylchedd hanesyddol yn cynnig tystiolaeth

Ar wahoddiad y Pwyllgor, fe wnaeth rhanddeiliaid perthnasol o'r sector amgylchedd hanesyddol roi tystiolaeth ysgrifenedig ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Casglu tystiolaeth ysgrifenedig

26 Medi 2022

‘Darn o waith trawiadol’

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn clywed tystiolaeth ar y Bil gan Gomisiwn y Gyfraith.

Sesiwn eang ar bob agwedd o’r Bil.

20 Medi 2022

Y pwyllgor yn ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol eto

Gwaith darllen manwl o Nodiadau'r Drafftwyr yn ysgogi'r Pwyllgor i ofyn am eglurhad gan y Cwnsler Cyffredinol ar 80 a mwy o bwyntiau ar draws y Bil.

Parhau i ystyried y Bil yn ofalus

17 Awst 2022

Y Cwnsler Cyffredinol yn ateb llythyr y Pwyllgor

Y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, yn rhoi ymateb manwl i gais y Pwyllgor am ragor o wybodaeth.

Eglurhad ar sawl agwedd ar y Bil

28 Gorffennaf 2022

Sesiwn rhanddeiliaid ar y Bil

Ymunodd dros 100 o randdeiliaid yr angled hanesyddol â dirprwy gyfarwyddwr Cadw, Gwilym Hughes, a’r Tîm Deddfwriaeth a Pholisi ar gyfer cyflwyniad rhithwir.

Cyflwyniad rhithwir i'r ddeddfwriaeth newydd

19 Gorffennaf 2022

Pwyllgor yn gofyn am ragor o wybodaeth gan y Cwnsler Cyffredinol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, gyda chwestiynau ar ôl ei sesiwn dystiolaeth ar 11 Gorffennaf.

Gofyn am fwy o fanylion ar agweddau ar y Bil

11 Gorffennaf 2022

Y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi tystiolaeth

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn craffu’r Bil cyfuno cyntaf i'w ddwyn gerbron y Senedd.

Dilynwch ein dolenni i'r sesiwn ar Senedd.tv

6 Gorffennaf 2022

Erthygl fer yn trin a thrafod elfennau hanfodol y Bil

Erthygl fer gan ymchwilwyr y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Cyflwyniad defnyddiol i'r Bil

4 Gorffennaf 2022

Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd

Mae un o'r darnau mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth a ystyriwyd erioed gan y Senedd yn edrych i ddiogelu treftadaeth unigryw a gwerthfawr Cymru.

Rhan o god cyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru

13 Mawrth 2020

Rhaglen Llywodraeth Cymru i gydgrynhoi'r gyfraith

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd, yn esbonio mai deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol fydd un o'r prosiectau cyntaf i gydgrynhoi cyfraith Cymru.