Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn cymryd cam arall ar ei daith drwy’r Senedd
Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi pasio carreg filltir bwysig arall ar ei daith i ddod yn ddeddf. Cyfarfu’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 13 Chwefror 2023 ar gyfer cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor o’r Bil. O dan Reolau Sefydlog y Senedd, mae modd cynnig gwelliannau i Filiau Cydgrynhoi yn ystod y cyfnod hwn o graffu, a chyflwynwyd 52 o welliannau i’r Bil.
Cyflwynodd James Evans, AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, saith gwelliant anllywodraethol — pob un yn gysylltiedig, mewn un ffordd neu’i gilydd, â chynnig i gynnwys adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 yn y Bil. Wedi i James Evans agor y ddadl ar y gwelliannau hyn, ymatebodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ar ran Llywodraeth Cymru. Croesawodd y Cwnsler Cyffredinol y cyfle a godwyd gan y gwelliannau i egluro pam i’r penderfyniad gael ei wneud i eithrio Deddf 1973 o’r gwaith cydgrynhoi’r o’r cychwyn cyntaf. Adolygodd y pwyntiau a godwyd ganddo eisoes yn ei lythyr ar y mater wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor ar 28 Hydref 2022 ac ymrwymodd i ysgrifennu at y Pwyllgor eto gyda rhagor o wybodaeth am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adolygu deddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol morol. Pan aeth y gwelliannau hyn i bleidlais, methodd pob un, felly ni fydd y gwelliannau’n cael eu gwneud.
Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol 45 gwelliant i’r Bil gan Lywodraeth Cymru. Roedd ambell un yn gwneud cywiriadau angenrheidiol i lond llaw o fân wallau neu hepgoriadau nad oedd tîm y Bil wedi sylwi arnynt cyn ei gyflwyno. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r gwelliannau yn awgrymu newidiadau er mwyn egluro’r drafftio, cyflwyno mwy o gysondeb neu fireinio cyflwyniad y gyfraith.
Roedd rhai o’r gwelliannau a gyflwynwyd yn adlewyrchu newidiadau i’r Bil a awgrymwyd gan randdeiliaid. Cynigiwyd gwelliannau, er enghraifft, i’r diffiniad o “adeilad rhestredig” i egluro bod yn rhaid i strwythurau neu wrthrychau artiffisial sydd wedi’u cynnwys o fewn rhestriad fod yn ategol i’r adeilad rhestredig yn unol â chyfraith achos. Cyflwynwyd gwelliant hefyd er mwyn egluro’r amodau y mae modd eu pennu ar gyfer cofnodi adeilad rhestredig. Wrth drafod y gwelliannau, ategodd y Cwnsler Cyffredinol ei ddiolch i’r holl randdeiliaid a fu’n ymwneud â galwad y pwyllgor am dystiolaeth ac am yr amser a’r ystyriaeth a neilltuwyd ar gyfer eu hymatebion buddiol.
Pasiodd pob un o 45 gwelliant Llywodraeth Cymru yn ddiwrthwynebiad, ac yn unol â hynny, byddant yn cael eu cynnwys yn y Bil wrth iddo symud ymlaen.
Mae’n rhaid i’r Pwyllgor nawr lunio adroddiad erbyn 10 Mawrth sy’n nodi a ddylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd ymlaen i gyfnod Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu i’r Cyfnod Terfynol. Byddai cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn caniatáu i welliannau gael eu hystyried gan y Senedd gyfan, tra byddai’r Cyfnod Terfynol yn arwain at bleidlais derfynol ar y ddeddfwriaeth.
Os hoffech gael y newyddion diweddaraf am y Bil, cofrestrwch ar gyfer ein Diweddariad ar yr Amgylchedd Hanesyddol i dderbyn e-fwletinau rheolaidd.