Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn rhoi cyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog i bobl Cymru ar gyfer diogelu a rheoli’n hamgylchedd hanesyddol unigryw a gwerthfawr.
Dilynwch ein llinell amser o ddechreuadau'r prosiect cydgrynhoi i'r datblygiadau diweddaraf…
4 Tachwedd 2024
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a’i rheoliadau cysylltiedig yn rhoi i Gymru y ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol fwyaf diweddar yn y DU.
9 Medi 2024
Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud rheoliadau newydd fel rhan o god yr amgylchedd hanesyddol.
16 Awst 2024
Bydd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn dod i rym ar 4 Tachwedd 2024.
14 Mehefin 2023
Bydd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn trawsnewid hygyrchedd i’r gyfraith ar gyfer rheoli a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru.
28 Mawrth 2023
Aelodau’n pleidleisio’n unfrydol dros Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yng ngham olaf ei daith drwy’r Senedd.
10 Mawrth 2023
Ar ôl Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor a gwelliannau i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn argymell bod y Bil yn symud ymlaen i'r Cyfnod Terfynol.
8 Mawrth 2023
Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) sy'n adlewyrchu'r gwelliannau a wnaed yng nghyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor bellach ar gael ar dudalen y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
1 Mawrth 2023
Mewn llythyr at y Pwyllgor, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn esbonio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu tystiolaeth ac adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol morol.
15 Chwefror 2023
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried penderfyniad y Cwnsler Cyffredinol i roi mwy o wybodaeth am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adolygu deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol forol.
13 Chwefror 2023
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried 52 o welliannau i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
6 Chwefror 2023
James Evans AS yn cyflwyno gwelliannau i fewnosod adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 ym Mil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
25 Ionawr 2023
Wrth ysgrifennu at holl Aelodau'r Senedd, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn darparu tabl pwrpas ac effaith ac eglurhad o'r gwelliannau arfaethedig yn eu cyd-destun.
24 Ionawr 2023
Y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno pedwar deg pump o welliannau i fireinio Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
18 Ionawr 2023
Y Cwnsler Cyffredinol yn mynd i’r afael â chwestiynau a godwyd yn nadl y Senedd ar gynnydd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
18 Ionawr 2023
Y Cwnsler Cyffredinol yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr holl argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ystyriaeth gychwynnol y Bil.
17 Ionawr 2023
Cytunodd Senedd Cymru yn unfrydol y dylai Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil cydgrynhoi i’w ystyried yn fanwl gan bwyllgor.
12 Ionawr 2023
Gan ymateb i argymhelliad yn yr adroddiad ar y Bil, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn esbonio’r dull a ddefnyddiwyd yn adran 2(3) i sicrhau cydgrynhoi boddhaol.
23 Rhagfyr 2022
Ar ôl craffu’n ofalus, mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn argymell y dylai Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo.
14 Tachwedd 2022
Y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, yn ateb cwestiynau ar dros 30 maes o’r Bil gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
28 Hydref 2022
Yn ei ateb i'r Pwyllgor, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol morol yng nghyd-destun cydgrynhoi.
17 Hydref 2022
Mewn ymateb hir, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn egluro'r materion drafftio a godwyd yn llythyr y Pwyllgor ar 20 Medi.
7 Hydref 2022
Wedi'i ysgogi gan dystiolaeth rhanddeiliaid, mae'r Pwyllgor yn gofyn am farn y Cwnsler Cyffredinol am 'eithrio'r amgylchedd morol o'r Bil’.
7 Hydref 2022
CLA Cymru yn sôn am Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a'i ddarpariaethau.
3 Hydref 2022
Ar wahoddiad y Pwyllgor, fe wnaeth rhanddeiliaid perthnasol o'r sector amgylchedd hanesyddol roi tystiolaeth ysgrifenedig ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
26 Medi 2022
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn clywed tystiolaeth ar y Bil gan Gomisiwn y Gyfraith.
20 Medi 2022
Gwaith darllen manwl o Nodiadau'r Drafftwyr yn ysgogi'r Pwyllgor i ofyn am eglurhad gan y Cwnsler Cyffredinol ar 80 a mwy o bwyntiau ar draws y Bil.
17 Awst 2022
Y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, yn rhoi ymateb manwl i gais y Pwyllgor am ragor o wybodaeth.
28 Gorffennaf 2022
Ymunodd dros 100 o randdeiliaid yr angled hanesyddol â dirprwy gyfarwyddwr Cadw, Gwilym Hughes, a’r Tîm Deddfwriaeth a Pholisi ar gyfer cyflwyniad rhithwir.
19 Gorffennaf 2022
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, gyda chwestiynau ar ôl ei sesiwn dystiolaeth ar 11 Gorffennaf.
11 Gorffennaf 2022
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn craffu’r Bil cyfuno cyntaf i'w ddwyn gerbron y Senedd.
6 Gorffennaf 2022
Erthygl fer gan ymchwilwyr y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
4 Gorffennaf 2022
Mae un o'r darnau mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth a ystyriwyd erioed gan y Senedd yn edrych i ddiogelu treftadaeth unigryw a gwerthfawr Cymru.
13 Mawrth 2020
Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd, yn esbonio mai deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol fydd un o'r prosiectau cyntaf i gydgrynhoi cyfraith Cymru.