Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Pwyllgor yn argymell y dylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo

Ar 23 Rhagfyr 2022, ar ôl mwy na 5 mis o graffu gofalus, cyhoeddodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru ei adroddiad ar ei ystyriaeth gychwynnol o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Mae’r adroddiad 139 tudalen — wedi’i gefnogi gan fwy nag 80 tudalen o dystiolaeth sy’n cynnwys yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor a’r Cwnsler Cyffredinol — yn cyflwyno 14 o argymhellion ac yn llunio 5 casgliad. Mae’r adroddiad yn tystio i archwiliad trylwyr y Pwyllgor o’r ddeddfwriaeth ei hun a’i ystyriaeth o’r broses o gydgrynhoi yn fwy cyffredinol. Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar y cyfan gyda chwmpas, cywirdeb ac eglurder y gwaith cydgrynhoi. Yn bwysicaf oll, argymhellodd y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Yr argymhelliad hwnnw fydd o’r pwys mwyaf pan fydd y Bil yn cael ei drafod yn y Senedd ar 17 Ionawr 2023. Bydd Aelodau o’r Senedd wedyn yn cael y cyfle i bleidleisio ar a ddylai’r Bil symud gam ymlaen i gyfnod ystyriaeth fanwl y Pwyllgor, sydd i fod i ddechrau ar 18 Ionawr. Os bydd y Bil yn mynd ymlaen i’r cyfnod ystyriaeth fanwl, mae’n bosibl y bydd y gwelliannau gan y Llywodraeth a’r gwelliannau Anllywodraethol i’r Bil yn cael eu cyflwyno.