Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Ar 4 Gorffennaf 2022 cyflwynodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i Senedd Cymru.
AtMae’n ddogfen o ryw 200 o dudalennau, a dyma fydd un o’r darnau mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth i’w ystyried gan y Senedd a bydd yn rhoi cyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog i Gymru ar gyfer diogelu a rheoli ei hamgylchedd hanesyddol unigryw a gwerthfawr.
Mewn datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, esboniodd fod y Bil yn gam pwysig yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru a nodwyd yn Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026. Mae’r Bil yn ganlyniad y prosiect cyntaf mewn rhaglen uchelgeisiol o gydgrynhoi deddfwriaethol.
Drannoeth (dydd Mawrth, 5 Gorffennaf), gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad deddfwriaethol yn y Senedd. Manteisiodd ar y cyfle i bwysleisio, er y gall cydgrynhoi wella hygyrchedd y gyfraith gyda newidiadau i strwythur ac iaith, mae’n cadw effaith y gyfraith ac nid yw’n newid polisi. Pwysleisiodd hefyd y byddai’r Bil, o’i basio, yn rhan o god o gyfraith ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.
Gallwch wylio sesiwn y Cyfarfod Llawn ar Senedd.tv neu ddarllen trawsgrifiad o’r drafodaeth.