Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei holi am Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Dychwelodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 14 Tachwedd wrth i Ystyriaeth Gychwynnol o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ddod i’w derfyn. Ymddangosodd y Cwnsler Cyffredinol gerbron y Pwyllgor ddiwethaf ar 11 Gorffennaf, rai dyddiau ar ôl cyflwyno’r Bil i’r Senedd. Ers hynny, mae’r Pwyllgor wedi craffu’n ofalus ar y ddeddfwriaeth, wedi ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i gael esboniad am sawl mater ac wedi casglu tystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith a rhanddeiliaid yn y sector amgylchedd hanesyddol.

Trafododd y sesiwn eang tua 30 maes o’r Bil ac roedd llawer o’r cwestiynau yn rhai â ffocws ac yn dechnegol. Roedd dau swyddog o Lywodraeth Cymru yno i gynorthwyo’r Cwnsler Cyffredinol: Dr James George, Uwch-gwnsler Deddfwriaethol, a Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw a Dirprwy Gyfarwyddwr. Cododd aelodau’r Pwyllgor bynciau yn amrywio o gydymffurfiaeth â hawliau dynol rannau o’r Bil, i faterion amrywiol y derminoleg a ddefnyddiwyd yn y ddeddfwriaeth i ymholiadau am ei rhoi ar waith. Holwyd y Cwnsler Cyffredinol yn fanwl am nifer o bynciau, gan gynnwys:

  • yr amgylchedd hanesyddol morol a’r Bil;
  • y defnydd o’r term ‘crefyddol’ yn hytrach nag ‘eglwysig’ yn y Bil;
  • y Bil yn cadw’r derminoleg ‘cadwraeth’;
  • cynnwys y term ‘atodol’ (ancillary) i ddisgrifio strwythurau neu wrthrychau sy’n gysylltiedig ag adeilad rhestredig i adlewyrchu cyfraith achos bresennol;
  • problemau posibl gyda darpariaeth y Bil ar gyfer cofnodi adeilad rhestredig sydd wedi’i gydsynio i’w ddymchwel;
  • yr amheuon a fynegwyd gan randdeiliaid am gynnwys darpariaethau’r hysbysiadau cadwraeth yn y Bil; a
  • gofyniad y Bil i Weinidogion Cymru gynnal cofnodion o’r amgylchedd hanesyddol.

Roedd llawer o’r materion hyn wedi’u dwyn i sylw’r Pwyllgor gan randdeiliaid yn eu tystiolaeth ysgrifenedig, a diolchodd pob un a oedd wedi bod yn rhan o’r trafodion - aelodau’r Pwyllgor, y Cwnsler Cyffredinol a’r swyddogion cynorthwyol - i’r rhanddeiliaid a oedd wedi cyflwyno tystiolaeth am eu mewnbwn defnyddiol ac adeiladol wrth graffu ar y ddeddfwriaeth.

Mewn nifer o achosion, nododd y Cwnsler Cyffredinol ei barodrwydd i ystyried gwelliannau yng ngoleuni tystiolaeth y rhanddeiliaid pe bai’r Bil yn datblygu ymhellach. Dywedodd hefyd y byddai’n croesawu safbwyntiau’r Pwyllgor ar rai materion anodd.

Blas yn unig a geir yma ar y sesiwn a barodd awr a hanner. Gellir gwylio’r trafodion llawn ar Senedd TV ac mae’r trawsgrifiad ar gael yma.

Bydd y Pwyllgor nawr yn paratoi ei adroddiad ar a ddylai’r Bil fynd yn ei flaen fel Bil Cydgrynhoi. Mae disgwyl i’r adroddiad hwn gael ei gyflwyno i’r Senedd ar 23 Rhagfyr. Bydd y Senedd yn pleidleisio ar a ddylai’r Bil fynd yn ei flaen yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.