Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol

Ar ôl taith ddeng mis trwy Senedd Cymru, mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi dod yn Ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol Ei Fawrhydi, y Brenin Charles III, a’i stampio gyda’r Sêl Gymreig gan y Prif Weinidog. Y  ddeddfwriaeth – ymarferiad cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru mewn rhaglen uchelgeisiol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru – yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Am y tro cyntaf, mae’r Ddeddf newydd yn dod â’r brif ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol ynghyd mewn un lle, mae’n ei nodi’n glir ar gyfer Cymru heb gyfeiriadau dryslyd at awdurdodaethau eraill ac yn darparu’r gyfraith a’i dogfennau ategol ar ffurf gwbl ddwyieithog. At hynny, mae’r gyfraith wedi cael ei had-drefnu a’i hailddatgan mewn iaith glir, bob dydd fel y bydd yn haws ei defnyddio a’i deall. Bydd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn trawsnewid hygyrchedd y gyfraith i berchnogion a meddianwyr henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig, grwpiau trydydd sector, awdurdodau cyhoeddus ac eraill.

Er bod y ddeddfwriaeth bellach yn Ddeddf Senedd Cymru, ni fydd yn dod i rym tan ddiwedd 2024. Yn y misoedd i ddod, bydd is-ddeddfwriaeth i gefnogi’r Ddeddf yn cael ei llunio. Bydd angen i Cadw, adrannau eraill Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill hefyd ddiwygio a diweddaru canllawiau a ffurflenni cais i adlewyrchu cyflwyniad y Ddeddf. Yn olaf, bydd rhaglen o ymgysylltu yn hybu ymwybyddiaeth o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ymhlith rhanddeiliaid yr amgylchedd hanesyddol, bydd yn hyrwyddo ei manteision ac yn rhoi  cyhoeddusrwydd i’r dyddiad yn 2024 pan ddaw i rym.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau penodol i’r Ddeddf ar wefan Cadw.