Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Y Senedd yn pleidleisio o blaid symud Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ymlaen i’r cam craffu nesaf

Cytunodd y Senedd yn unfrydol heddiw y dylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil cydgrynhoi a symud ymlaen i’r cam craffu nesaf.

Cafodd y ddadl hagor gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Cyflwynwyd y Bil ychydig dros chwe mis yn ôl gan y Cwnsler Cyffredinol, sy’n gyfrifol am raglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd Cyfraith Cymru. Yn ei sylwadau agoriadol, cofnododd y Cwnsler Cyffredinol ei ddiolch i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ei Gadeirydd a’i staff am eu gwaith craffu gofalus ar y Bil a’i ddogfennaeth ategol. Yn ei adroddiad ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), gwnaeth y Pwyllgor bedwar ar ddeg o argymhellion, rhai ohonynt yn ymwneud â’r Bil a rhai ohonynt yn ymwneud â chydgrynhoi yn ehangach.

Cyfyngodd y Cwnsler Cyffredinol ei sylwadau cychwynnol byr i faterion o bwysigrwydd uniongyrchol i gynnydd y Bil. Croesawodd argymhelliad y Pwyllgor y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil cydgrynhoi. Cadarnhaodd wrth y Senedd bod yr holl gydsyniadau angenrheidiol gan Weinidog y Goron ar gyfer y Bil wedi eu derbyn. Gwnaeth rai sylwadau am weithredu hefyd a derbyniodd fod amserlen glir yn ddymunol cyn gynted â phosibl. Gan god amser yn brin, ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch argymhellion eraill ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor, Huw Irranca-Davies AS, a’i aelodau hefyd. Fe wnaethon nhw groesawu’r Bil a diolch i Gomisiwn y Gyfraith a’r rhanddeiliad, ynghyd â’r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru, am ymgysylltu mewn ffordd adeiladol â’r gwaith o graffu ar y ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod y Bil yn gywir ac yn amlwg yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth yn unol â Rheolau Sefydlog, gan ailadrodd eu barn y dylai’r Bil symud ymlaen i gam ystyriaeth fanwl y pwyllgor.

Er bod aelodau’r Pwyllgor wedi mynegi rhai pwyntiau am fanylion y Bil, fe wnaethon nhw hefyd fynd i’r afael â rhai o’r argymhellion cyffredinol yn eu hadroddiad a fydd yn effeithio ar brosiectau cydgrynhoi yn y dyfodol. Cafwyd sylwadau ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a’i gyfraniad at y broses gydgrynhoi, ymgorffori deddfiadau’r Senedd i ddeddfwriaeth wedi’i chydgrynhoi a thystiolaeth ategol y Bil a’i rôl wrth i’r Pwyllgor ystyried cwmpas Bil.
Ymatebodd y Cwnsler Cyffredinol, ac ymrwymodd i roi ateb ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau nad oedd wedi rhoi sylw iddynt. Nododd hefyd fod pawb a fu’n rhan o’r cydgrynhoi wedi cael llawer i gnoi cil yn ei gylch ac wedi dysgu llawer o’r cam ystyriaeth gychwynnol hwn gan bwyllgor i Fil cydgrynhoi.

Gallwch wylio’r ddadl yn llawn ar Senedd TV neu ddarllen y trawsgrifiad yma.

Gyda’r Bil bellach wedi pasio pleidlais y Senedd, mae cam ystyriaeth fanwl y pwyllgor yn dechrau ar 18 Ionawr. Yn ystod y cam hwn, gellir cyflwyno gwelliannau’r Llywodraeth a gwelliannau anllywodraethol i’r Bil. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r cam hwn i wneud unrhyw gywiriadau neu gaboli i’r Bil sydd wedi eu nodi ers iddo gael eu cyflwyno. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau’r Llywodraeth yw 2 Chwefror, a 7 Chwefror ar gyfer gwelliannau anllywodraethol. Mae ystyriaeth fanwl y pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer 13 Chwefror.