Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Prosiect cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru i ddod â threfn ac eglurder i gyfraith Cymru.
Ymunodd dros 100 o randdeiliaid yr angled hanesyddol â dirprwy gyfarwyddwr Cadw, Gwilym Hughes, a’r Tîm Deddfwriaeth a Pholisi ar gyfer cyflwyniad rhithwir i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
Darparodd y sesiwn, a drefnwyd ar y cyd â Grŵp Treftadaeth Cymru, drosolwg o gydgrynhoi a’i fanteision cyn arolygu strwythur a chynnwys y Bil. Cafwyd rhai pwyntiau defnyddiol ar ddefnyddio’r dogfennau ategol i lywio a deall y Bil yn well, ac yna edrychwyd ar y camau y bydd y ddeddfwriaeth yn mynd drwyddynt i ddod yn Ddeddf.