Lleoliad Asedau Hanesyddol
Mae lleoliad yn cyfeirio at ble bynnag mae pobl yn deall, yn profi ac yn gwerthfawrogi ased hanesyddol, gan gynnwys perthynas y gorffennol a’r presennol â’r ardal amgylchynol. Yr hyn sy’n bwysig am leoliad yw beth mae’n ei gyfrannu at arwyddocâd eich ased hanesyddol.
Rhywbeth gweledol yw lleoliad yn bennaf, ond gall gynnwys nodweddion eraill fel llonyddwch neu natur anghysbell hefyd. Nid yw’n ddigyfnewid o ran ei faint a gall newid wrth i’r ased a’r hyn sydd o’i amgylch esblygu. Gallai lleoliad ased hanesyddol gynnwys elfennau ffisegol ei gyffiniau, ei berthynas â nodweddion hanesyddol eraill, nodweddion naturiol neu dopograffig a’i berthynas a’i welededd ehangach o fewn ei dirwedd.
Gall deall lleoliad ased hanesyddol eich helpu i lunio cynigion datblygu priodol. Gellir defnyddio’r broses hon i nodi dulliau gweithredu amgen a gall eich helpu i gynllunio a dylunio eich cynigion yn well fel eu bod yn achosi llai o niwed ac yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i arwyddocâd ased hanesyddol a’i leoliad.
Os ydych chi’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ddigonol, ond gymesur, i’r awdurdod cynllunio lleol er mwyn asesu effaith bosib cynigion datblygu ar ased hanesyddol a’i leoliad. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau Safleoedd Treftadaeth y Byd, henebion (cofrestredig ac anghofrestredig), adeiladau rhestredig, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth. Bydd y wybodaeth hon yn helpu’r awdurdod cynllunio lleol i ddeall y rhesymau dros eich cynigion pan fydd yn penderfynu ar eich cais cynllunio.
Mae lleoliad hefyd yn ystyriaeth mewn ceisiadau am gydsyniadau adeilad rhestredig, ardal gadwraeth a heneb gofrestredig. Gall eich asesiad o leoliad fod yn rhan o ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth.
Mae Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn esbonio beth yw lleoliad, sut mae’n cyfrannu ar arwyddocâd ased hanesyddol a pham mae’n bwysig.
Hefyd, mae Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn amlinellu’r egwyddorion a ddefnyddir i asesu effaith bosib cynigion datblygu neu gynigion ar gyfer rheoli tir o fewn lleoliadau asedau hanesyddol. Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol i bob ased hanesyddol, waeth beth fo’u dynodiad.
Mae’r canllawiau arferion gorau hyn wedi’u hanelu at ddatblygwyr, perchnogion, deiliaid ac asiantau, a dylent eu defnyddio i lywio cynlluniau rheoli a chynigion ar gyfer newid a all effeithio ar arwyddocâd ased hanesyddol a’i leoliad. Dylai hefyd eu helpu i ystyried Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy (Egwyddorion Cadwraeth) Cadw er mwyn cyflawni newid sensitif o ansawdd uchel.
Dylai awdurdodau sy’n gwneud penderfyniadau a’u cynghorwyr hefyd ddefnyddio’r canllawiau hyn ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol, Egwyddorion Cadwraeth i lywio polisïau lleol ac wrth ystyried ceisiadau unigol am ganiatâd cynllunio a chydsyniad adeilad rhestredig.