Adeiladau rhestredig
Cafodd adeilad rhestredig cyntaf Cymru ei ddynodi yn 1949 ac ers hynny mae mwy na 30,000 o adeiladau ledled y wlad wedi’u rhestru. Mae’r darnau canlynol o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer eu diogelu a’u rheoli mewn ffordd gynaliadwy; maen nhw i gyd yn rhan o’r cod ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.
Deddfwriaeth sylfaenol
Deddf Yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon, sy’n cynnwys 6 Phennod, yn darparu’r ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y canlynol:
- rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig (Pennod 1)
- rheoli newid o ran adeiladau rhestredig drwy’r broses cydsyniad adeilad rhestredig (Pennod 2)
- cytundebau partneriaeth adeiladau rhestredig (Pennod 3)
- cymryd camau yn erbyn gwaith anawdurdodedig neu ddifrod bwriadol i adeiladau rhestredig (Pennod 4)
- atal adeiladau rhestredig rhag dirywio drwy brynu gorfodol neu waith brys a grantiau ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw (Pennod 5)
- pwerau mynediad sy’n berthnasol i Ran 3 ac adeiladau crefyddol esempt (Pennod 6).
Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n berthnasol i adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth.
Mae Paragraffau 244–589 o’r nodiadau esboniadol ar gyfer y Ddeddf yn cwmpasu’r darpariaethau ar gyfer adeiladau rhestredig yn Rhan 3. Mae Paragraffau 633–684 o’r nodiadau esboniadol yn ymwneud â’r darpariaethau yn Rhan 5.
Is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
Mae’r rheoliadau hyn yn rheoli amryw o faterion manwl ynghylch cymhwyso darpariaethau adeiladau rhestredig Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, gan gynnwys y canlynol:
- y gofynion o ran ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig gan gynnwys datganiadau o’r effaith ar dreftadaeth a thystysgrifau perchnogaeth
- trin ceisiadau am gydsyniad gan gynnwys hysbysebu, hysbysu’r Cymdeithasau Amwynder a Gweinidogion Cymru a phenderfyniadau
- apeliadau yn erbyn penderfyniadau awdurdodau cynllunio
- ceisiadau am gydsyniad gan awdurdodau cynllunio ac mewn perthynas â thir y Goron
- y gyfradd llog sy’n daladwy gan awdurdod lleol yn ystod gwaith brys hyd nes bod modd adennill y costau.
Mae datganiad o’r effaith ar dreftadaeth yn gynnyrch proses strwythuredig yr asesiad o’r effaith ar dreftadaeth. Mae hyn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i arwyddocâd yr ased hanesyddol wrth ddatblygu cynigion ynghylch newid. Mae’n rhan graidd o’r broses ddylunio sy’n profi a yw cynigion ynghylch newid yn briodol drwy asesu eu heffaith ar arwyddocâd. Mae materion ynghylch mynediad yn cael eu hystyried yn llawn oni bai bod y gwaith arfaethedig yn ymwneud â phreswylfa breifat.
Ewch i’r dudalen ynghylch asesiadau o’r effaith ar dreftadaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr ymgynghoriad a’r cyhoeddusrwydd y mae’n rhaid i awdurdod cynllunio eu rhoi ar waith cyn gwneud neu amrywio cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
O dan adran 156 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, gall Gweinidogion Cymru, trwy reoliadau, esemptio adeiladau eglwysig sy’n cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig rhag rhai darpariaethau sy’n berthnasol i adeiladau rhestredig, gan gynnwys y gofyniad bod gwaith yn cael ei awdurdodi gan gydsyniad adeilad rhestredig. Yn ymarferol, mae’r esemptiad yn cael ei gyfyngu i adeiladau sy’n eiddo i enwadau crefyddol sy’n gallu dangos bod ganddynt systemau rheoli mewnol sydd, o leiaf, yn gyfwerth â’r rhai sy’n rhan o brosesau cydsyniad awdurdodau cynllunio. Mae’r rheoliadau hyn yn nodi’r enwadau perthnasol:
- Undebau y Bedyddwyr Prydain Fawr a Chymru
- yr Eglwys yng Nghymru
- Eglwys Loegr
- yr Eglwys Fethodistaidd
- yr Eglwys Rufeinig Gatholig.
Tra bod angen ail-lunio’r rheoliadau blaenorol yn gyfan gwbl er mwyn cynnwys y newidiadau a wnaed gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, roedd angen gwneud diwygiadau canlyniadol yn unig i sicrhau bod y rheoliadau canlynol yn cydymffurfio â’r Ddeddf ac ychwanegu’r datganiad eu bod bellach yn rhan o’r cod ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017
Mae’r rheoliadau hyn yn amlinellu’r sail ar gyfer adolygu penderfyniadau rhestru ac amryw o faterion gweithdrefnol manwl.
Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006
Mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweithdrefnol yn ymwneud â chynrychiolwyr penodedig mewn ymchwiliadau lle mae mynediad at dystiolaeth yn gyfyngedig.
Mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth weithdrefnol yn ymwneud â chyhoeddusrwydd sy’n gysylltiedig ag apêl.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017
Mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys rheoliadau gweithdrefnol yn ymwneud ag apelio yn erbyn hysbysiadau gorfodi.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017
Mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweithdrefnol yn ymwneud â cheisiadau sydd wedi’u hatgyfeirio at Weinidogion Cymru ac at apêl.