Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn cynnal a chadw cofnodion yr amgylchedd hanesyddol ar ran Gweinidogion Cymru
Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i bob cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer ardal awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth (neu fynediad at wybodaeth) am y canlynol:
Felly, mae’r cofnodion amgylchedd hanesyddol yn rhoi’r wybodaeth a’r dystiolaeth sydd eu hangen ar awdurdodau lleol a rheolwyr tir eraill i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cofnod amgylchedd hanesyddol ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd. Mae’r wefan Archwilio yn cynnig mynediad i’r cyhoedd i’r cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol. Hefyd, mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch copïo rhannau o’r cofnodion amgylchedd hanesyddol, cymorth i gael a deall gwybodaeth a llunio gwybodaeth a gafwyd. Gellir codi ffi am wasanaethau o’r fath.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn gorchymyn bod yn rhaid cyhoeddi canllawiau statudol ynghylch llunio a defnyddio’r cofnodion ar gyfer awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Cyhoeddwyd Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio ar 10 Ebrill 2017 ac mae ar gael i’w lawrlwytho.
Rhaid darllen rhai cyfeiriadau yn y canllawiau hyn nawr fel cyfeiriadau at ddarpariaethau yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
Mae Deddf 2023 wedi disodli'r Deddfau canlynol yng Nghymru:
Efallai y bydd Tabl Trawsleoli Deddf 2023 o fudd i ddarllenwyr fel ffordd o nodi darpariaethau penodol.