Skip to main content

Enwau lleoedd hanesyddol

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Dan ddarpariaeth annibynnol yn Neddf 2016, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Maent wedi rhoi’r dasg honno yng ngofal Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ar gael i bawb ar-lein.

Mae’r un Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod amgylchedd hanesyddol y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gynnal ar gyfer pob ardal awdurdod lleol gynnwys yr enwau lleoedd ar gyfer yr ardal honno o’r rhestr. Felly, mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ar gael yn rhwydd, ynghyd â thystiolaeth arall o’r cofnod amgylchedd hanesyddol, i lywio penderfyniadau gan awdurdodau cynllunio lleol, cyrff cyhoeddus eraill, datblygwyr a pherchnogion ynghylch rheoli’r amgylchedd hanesyddol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio, ar gyfer awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu sut y disgwylir i’r cyrff cyhoeddus hyn ddefnyddio’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru pan fydd eu swyddogaethau yn cynnwys enwi neu ailenwi lleoedd.