Skip to main content

Henebion cofrestredig

Mae dros 4,000 o henebion cofrestredig yng Nghymru. Y canlynol yw’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r gwaith o’u diogelu a’u rheoli ar hyn o bryd:

Deddfwriaeth sylfaenol

Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (Saesneg yn unig)

Y Ddeddf hon yw’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n darparu ar gyfer y canlynol:

  • cofrestru henebion sydd o bwys cenedlaethol
  • rheoli gwaith ar henebion cofrestredig drwy’r broses cydsyniad heneb gofrestredig
  • cymryd camau yn erbyn gwaith anawdurdodedig neu ddifrod bwriadol i henebion cofrestredig
  • caffael a gwarchod henebion hynafol.

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Roedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn gwneud nifer o ddiwygiadau pwysig i Ddeddf 1979.

Ymgynghori, diogelwch interim ac adolygu penderfyniadau i ddynodi asedau hanesyddol

Bellach, ymgynghorir â pherchnogion ac eraill yn ffurfiol pan fydd heneb yn cael ei hystyried ar gyfer ei chofrestru neu’i datgofrestru. Mae diogelwch interim yn diogelu heneb rhag ei difrodi neu’i dinistrio yn ystod y cyfnod ymgynghori. Gall perchennog neu feddiannydd ofyn am adolygiad o benderfyniad dynode.

Ehangu’r diffiniad o heneb gofrestredig

Gall Gweinidogion Cymru adnabod a diogelu unrhyw safleoedd o bwys cenedlaethol sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol.

Diwygiadau i’r troseddau a’r amddiffyniadau mewn perthynas â difrod i henebion cofrestredig

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn haws erlyn mewn achosion o ddifrodi neu ddinistrio henebion cofrestredig yn anghyfreithlon, drwy gyfyngu ar yr amddiffyniad ynghylch anwybodaeth am statws neu leoliad heneb. Bydd yn rhaid i’r sawl a gyhuddir fod yn gallu dangos bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i ganfod a fyddai heneb gofrestredig yn cael ei difrodi neu’i dinistrio gan ei weithredoedd.

Cyflwyno hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau stop dros dro mewn perthynas â henebion cofrestredig

Mae hysbysiadau stop dros dro yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru atal gwaith anawdurdodedig neu ddifrod arall i henebion cofrestredig ar unwaith. Gallant ddefnyddio hysbysiadau gorfodi cyfannol i orchymyn atgyweiriadau i henebion neu gyflawni amodau cydsyniad heneb gofrestredig heb fynd i’r llys.

Diwygiadau i’r broses cydsyniad heneb gofrestredig

Mae’r broses cydsyniad heneb gofrestredig sydd wedi’i symleiddio yn defnyddio dulliau cyfathrebu modern i awdurdodi mân waith.

Pwerau mynediad i gynnal archwiliad archaeolegol o henebion hynafol sydd mewn perygl o gael eu difrodi neu’u dinistrio

Os yw heneb hynafol mewn perygl o gael ei difrodi neu’i dinistrio ar unwaith, gall Gweinidogion Cymru awdurdodi cloddfeydd archaeolegol heb ganiatâd y perchennog.

Cyflwyno cytundebau partneriaeth dreftadaeth

Mae cytundebau partneriaeth dreftadaeth yn dod â pherchnogion, awdurdodau sy’n rhoi caniatâd a phartïon eraill sydd â diddordeb at ei gilydd i greu cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer asedau hanesyddol. Mae’r cynlluniau’n cwmpasu rhaglenni gwaith a gytunwyd ac yn cynnwys cydsyniadau henebion cofrestredig a/neu adeiladau rhestredig.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am rai o ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 o ran henebion cofrestredig yn y ffeithlenni canlynol.

Is-ddeddfwriaeth

Gorchymyn Henebion Hynafol (Cydsyniadau Dosbarth) 1994 (Saesneg yn unig)

Mae’r Gorchymyn hwn yn caniatáu i rai dosbarthiadau gwaith barhau — er enghraifft, gwaith amaethyddol a choedwigaeth — heb fod angen gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig, os yw’r gwaith hwnnw wedi’i wneud yn gyfreithlon yn yr un lleoliad yn ystod y chwe blynedd flaenorol.

Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017

Os dewisodd Gweinidogion Cymru beidio â chofrestru heneb neu ychwanegu at ardal gofrestredig, gall unrhyw unigolyn â buddiant yn yr heneb pan ddaeth diogelwch interim i rym hawlio digollediad am golled neu ddifrod y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i weithredu hynny. Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu’r gweithdrefnau ar gyfer hawliadau o’r fath, ac mae’n rhaid eu cyflwyno cyn pen chwe mis ar ôl y dyddiad pan ddaeth y diogelwch interim i ben.

Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at ddarpariaethau Deddf 2016 drwy nodi’r sail ar gyfer adolygu penderfyniadau cofrestru ac amryw o faterion gweithdrefnol manwl.

Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

Mae’r Rheoliadau hyn yn amlinellu’r gofynion o ran cais am gydsyniad heneb gofrestredig ac yn diffinio’r amgylchiadau ar gyfer proses wedi’i symleiddio i roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer mân waith.